Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol

Ehangwch eich arbenigedd mewn effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau hŷn, traddodiadol a bregus - gan gynnwys y rheiny a adeiladwyd cyn 1919. Mae’r cymhwyster hwn yn cyd-fynd â safonau PAS 2035 a PAS 2038, gan sicrhau eich bod yn bodloni gofynion y diwydiant ar gyfer ôl-ffitio cynaliadwy.

Delfrydol ar gyfer Aseswyr, Dylunwyr a Chydlynwyr Ôl-ffitio, mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gweithio ar adeiladau traddodiadol a gwarchodedig o fewn llwybrau risg B a C.

Datblygwch sgiliau arbenigol, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â safonau diwydiant, cyfrannwch at ddyfodol cynaliadwy adeiladau treftadaeth, a datblygwch eich gyrfa mewn ôl-ffitio heddiw!

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod
Achrededig:
ABBE logo
NOCN logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, byddwch yn gallu…

  • Adnabod oedran, natur a nodweddion adeiladau hŷn a thraddodiadol.

  • Asesu opsiynau ar gyfer cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau hŷn a thraddodiadol.

  • Gwneud argymhellion a rhoi cyngor ynghylch cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni.

Mae’r cwrs hwn yn hanfodol ar gyfer ôl-ffitwyr uchelgeisiol a chymwys, Aseswyr Ynni Domestig ac Annomestig, yn ogystal â’r rheiny sy’n gweithio yn y proffesiwn adeiladu a thai.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis:

Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig

Dyfarniad Lefel 4 mewn Asesu Ôl-ffitio

Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu Ôl-Ffitio a Rheoli Risg

Unrhyw rai o’n cyrsiau Rheolaeth Amgylcheddol IEMA

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.