Skip page header and navigation

Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithle (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd sy’n gofyn am newid ar frys i’r ffordd rydym i gyd yn gwneud busnes. Ewch ati i drawsnewid y ffordd rydych yn gweithio gyda chwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithle IEMA. Mae’r cwrs undydd dwys, rhagarweiniol hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i ddysgwyr i gynaladwyedd amgylcheddol gan sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant i greu effaith gynaliadwy fesuradwy yn eu sefydliad.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
  • Pellter
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Achrededig:
IEMA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phynciau amrywiol sy’n galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau’r gweithlu yn gyflym i gynyddu perfformiad, effeithlonrwydd ac effaith. Mae’n rhoi sicrwydd i arweinwyr bod gennych y sgiliau i gyflawni newid ymarferol trwy arbedion effeithlonrwydd syml. Yn ogystal, rhoi busnesau mewn sefyllfa i ennill tendrau ychwanegol trwy gydymffurfiaeth fwy cyson ac ymroddiad i gynaladwyedd.

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth o:
● Y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd.
● Rhwymedigaethau cydymffurfio ac ysgogwyr busnes ar gyfer newid.
● Y prif effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chynaladwyedd.
● Sut i wella perfformiad amgylcheddol.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn unrhyw swydd ar draws pob sector ar lefel weithredol.

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn helpu unigolion i symud ymlaen yn eu gyrfa gyda thystysgrif swyddogol sy’n dangos bod ganddynt wybodaeth sylfaenol am yr agenda ac arferion gwaith ym maes cynaladwyedd amgylcheddol.