Skip page header and navigation

Llwybr 4 - Camu i Gyflogaeth

  • Campws Aberystwyth
  • Campws Rhydaman
1 Flwyddyn - 1 diwrnod yr wythnos yn y coleg, 2 ddiwrnod mewn lleoliad gwaith

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth fynd i mewn i amgylcheddau gweithle.

Mae’n cwmpasu holl agweddau cefnogaeth yn eu Hinterniaeth, gan gynnwys: gweithio gyda chydweithwyr, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch, cyfathrebu yn y gweithle, paratoi ar gyfer gyrfa a datblygiad personol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn - 1 diwrnod yr wythnos yn y coleg, 2 ddiwrnod mewn lleoliad gwaith

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd dysgwyr yn mynychu’r coleg yn y Graig un diwrnod yr wythnos a lleoliad gwaith 2 ddiwrnod yr wythnos i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a sgiliau cyflogadwyedd, fel trefnu a rheoli amser. Caiff CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol, cwblhau ffurflenni cais a sgiliau cyfweliad eu cwmpasu yn y sesiynau addysgu.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau gyda chefnogaeth tiwtor ac anogwr swyddi. Yn ogystal bydd dysgwyr yn derbyn cefnogaeth hyfforddiant teithio er mwyn hybu annibyniaeth.

Nod y cymhwyster hwn yw:

  • Canolbwyntio ar astudio sgiliau ymarferol a sut y gellir eu datblygu.

  • Cynnig ehangder a dyfnder astudio, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth

  • Darparu cyfleoedd i ennill nifer o sgiliau ymarferol a thechnegol.

Amcanion y cymhwyster hwn yw:

  • Rhoi dealltwriaeth fanwl a phrofiad ymarferol i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith

  • Darparu carreg sarn i ddysgu pellach o fewn y sector.

Gall dysgwyr symud ymlaen i’r gweithle gyda’r gefnogaeth a roddir i ddatblygu CV, chwilio am swyddi a chwblhau’r broses ymgeisio. Gall hyn fod ar ffurf cyfleoedd gwirfoddoli neu waith â thâl.

Portffolio o dystiolaeth a gaiff ei asesu’n fewnol a’i sicrhau o ran ansawdd yn allanol. Gan fod angen i ddysgwyr ddangos cymhwysedd mewn sgiliau a gwybodaeth hefyd, byddan nhw’n cwblhau gwaith ysgrifenedig yn y dosbarth ac yn cael eu harsylwi yn eu lleoliad gwaith trwy gydol hyd y cwrs.

Does dim angen gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, mae rhaid bod diddordeb gan ymgeiswyr mewn rôl gefnogol o fewn amgylchedd gwaith.

Rhinweddau a asesir mewn cyfweliad:

  • Diddordeb mewn, ac ymrwymiad i, weithio ac astudio am dri diwrnod yr wythnos

  • Meddu ar gymhelliant i lwyddo o fewn y swydd

  • Parodrwydd i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain, dysgu a chymhwyso’r dysgu hwnnw yn y gweithle;

  • Gallu dangos bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cymwysterau sy’n rhan o’r Interniaeth

  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm a chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o bobl

  • Lefel briodol o rifedd a llythrennedd (yn Gymraeg neu Saesneg)

  • Parodrwydd i ymgymryd â gwiriad DBS gorfodol er mwyn gwirio addasrwydd ar gyfer gweithio gyda phobl agored i niwed.

  • Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i’r coleg a’r lleoliad gwaith. Gellir darparu Hyfforddiant Teithio.

  • Cost gwiriad DBS manwl

  • Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.