Skip page header and navigation

Llwybr 3 - Paratoi ar gyfer cyflogaeth

  • Campws Aberystwyth
1 Year

Bwriedir y rhaglen lefel mynediad, lefel un hon ar gyfer dysgwyr ag anableddau a/neu anawsterau dysgu cymedrol i ysgafn i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd gwaith neu astudio galwedigaethol pellach yn y coleg.

Bydd dysgwyr ar y cwrs hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys ymgorffori sgiliau gweithredol llythrennedd, rhifedd a TGCh.

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau galwedigaethol gan gynnwys lletygarwch ac arlwyo, gyrfaoedd, celfyddydau creadigol, celfyddydau perfformio, chwaraeon a hamdden, busnes ac adwerthu, y gyfraith a gwyddoniaeth fforensig, astudiaethau amgylcheddol a datblygiad personol a chymdeithasol.

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
1 Year

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y dysgwyr yn mynd i mewn i’r gymuned leol ar gyfer profiad gwaith grŵp a lleoliadau profiad gwaith unigol. Ceir ymweliadau oddi ar y safle a siaradwyr ymweliadol o fyd gwaith.

Mae’r cyfleoedd hyn yn rhoi sesiynau ymarferol realistig ac yn ymgorffori’r hyn a ddysgwyd yn y gwersi yn y coleg mewn senarios ‘bywyd go iawn’. Dylai dysgwyr fod yn gallu arddangos ymagwedd fwy annibynnol at ddysgu a gwybod eu hawliau a’u cyfrifoldebau.

Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau byw’n annibynnol unigol y dysgwyr, annog iechyd a lles positif, darparu sgiliau cyflogadwyedd a byw yn y gymuned. Mae’r rhaglen ddysgu wedi’i chynllunio i sicrhau bod y dysgwyr yn cael mynediad i’r pedwar piler dysgu i helpu dysgwyr fagu hyder mewn bywyd bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau Byw’n Annibynnol

  • Iechyd a Lles

  • Cymuned

  • Cyflogadwyedd

Gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau pellach os yw’n briodol.    I ddechrau, gall myfyrwyr symud ymlaen i Arlwyo Lefel 1, Astudiaethau Galwedigaethol Lefel 1 neu Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 1 yn Aberystwyth.

Gall dysgwyr eraill symud ymlaen i gyflogaeth (gwirfoddol, â chymorth neu gyflogaeth â thâl).

Mae’r rhaglen ddysgu yn darparu strwythur y gall dysgwyr ei ddefnyddio i gyflawni eu canlyniadau personol a chyrraedd eu potensial.

Mae pum cam yn y broses asesu. Mae’r camau’n dilyn proses sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael targedau sy’n SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig a Chyfnodol).

CAM 1 - Nodau’r rhaglen ddysgu

CAM 2 - Asesiad cychwynnol

CAM 3 - Gosod amcanion

CAM 4 - Adolygiad ffurfiannol o’r dysgu

CAM 5 - Asesiad crynodol o gyflawniad.

Mae’r broses wedi’i datblygu’n benodol i gefnogi personoli cyrchnodau dysgu a mesur cyflawniad ar lefel unigol. Mae asesu yn cynnwys gwybodaeth ymarferol a gweithredol. Bydd myfyrwyr hefyd yn creu portffolio o dystiolaeth.

Mae gwersi tiwtorial wythnosol yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o themâu a phynciau allweddol.  Trwy ein rhaglen Diwtorial rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo gwaith tîm lles Coleg Ceredigion.

Dyma drosolwg o rai o’r themâu a’r pynciau y bydd y dysgwyr yn eu hastudio a’u harchwilio:  Gwrth-Fwlio, Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Diogelwch ar y Rhyngrwyd, Diogelu, Dyletswydd Prevent a Mis Hanes Pobl Dduon.