
Llwybr 3 - Twf Personol a Lles a Galwedigaethol+
- Campws Rhydaman
Rhaglen lefel mynediad yw hon wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr a all fod yn cael amgylchedd ystafell ddosbarth gyffredin yn heriol. Cwrs rhagarweiniol ydyw wedi’i gynllunio i gwmpasu anghenion unigol pob dysgwr, mewn amgylchedd diogel a meithringar.
Mae’n gwrs cyfannol, person-ganolog i ddatblygu sgiliau annibynnol dysgwyr, annog iechyd a lles positif, darparu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol, ac mae wedi’i gynllunio i helpu adeiladu hyder ar gyfer bywyd bob dydd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Twf Personol a Lles
Pwrpas y cwrs hwn yw cefnogi datblygiad sgiliau dysgwyr fel paratoad ar gyfer dysgu lefel uwch, a Byd Gwaith, gan felly gynyddu cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen.
Mae’n cwmpasu ystod o bynciau ymarferol megis
-
Sgiliau byw’n annibynnol - Hunaniaeth a Hunanymwybyddiaeth, Hawliau a Chyfrifoldebau, Gwytnwch, Arian a Chyllid.
-
Cymuned - Ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, Cynaladwyedd a Dysgu o brofiadau awyr agored.
-
Iechyd a Lles - Corfforol, Emosiynol, Cymdeithasol a Rhywiol.
-
Cyflogadwyedd - Dysgu o brofiadau allanol, Cynllunio Dilyniant, Ysgrifennu CV.
-
Ymgorfforir sgiliau Rhifedd a Llythrennedd o fewn pob pwnc i wella sgiliau gwaith a sgiliau byw pob myfyriwr.
Bydd dysgwyr yn edrych tuag at ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth, oedolaeth neu astudio ymhellach o fewn meysydd prif ffrwd y coleg. Bydd sgiliau’n seiliedig o gwmpas hyder, adeiladu tîm, amrywiaeth, sgiliau perthynas, lles a sgiliau astudio cyffredinol.
Cymuned leol y dysgwr fydd y ffocws ar gyfer mwyafrif y sesiynau. Bydd dysgwyr yn gallu ennill profiad o astudio ar lefel sy’n addas ar gyfer symud ymlaen.
Mae cyrsiau wedi’u cynllunio i fod yn seiliedig o gwmpas y pedwar piler sef:-
-
Sgiliau Byw’n Annibynnol
-
Iechyd a Lles
-
Cymuned
-
Cyflogadwyedd
Caiff cymorth cyfathrebu, rhifedd a sgiliau digidol ei ymgorffori yn y sesiynau.
Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn gallai dysgwyr symud ymlaen yn fewnol i Lwybr 4 - Interniaethau â Chymorth neu i gyrsiau coleg lefel 1 neu Fynediad 3 prif ffrwd.
Bydd yna system ar gyfer gosod targedau SMART unigol, clir ac ar gyfer monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn y targedau hyn gan ddefnyddio’r dull RARPA (Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad). Hefyd bydd rhaglenni’n ddigon hyblyg i addasu targedau a gweithgareddau lle mae hyn yn angenrheidiol.
Caiff dysgwyr eu cefnogi i gasglu tystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd, i ddangos ac asesu eu cynnydd yn erbyn eu targedau o fewn y pedwar piler. Cynhelir adolygiadau rheolaidd yn erbyn y targedau penodol gyda phob dysgwr er mwyn edrych ar y cynnydd hwn a gosod targedau newydd lle bo angen.
Tra gall rhaglenni gynnwys ychydig bach o achrediad lle bo’n briodol ar gyfer y dysgwr, y prif ffocws fydd ar ddarparu gweithgareddau fydd yn adlewyrchu anghenion dysgwyr unigol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag mae cael cynnig o le ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd pontio ynghyd ag atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol yr Ysgol, Ysgolion arbennig, ysgolion a cholegau arbenigol Annibynnol a Gyrfa Cymru.
Bydd dysgwyr hefyd yn ymgymryd ag asesiad sylfaenol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.