
Llwybr 2 - Sgiliau ar gyfer Bywyd Gwaith
- Campws Aberystwyth
Bwriedir y rhaglen lefel mynediad hon ar gyfer dysgwyr ag anableddau a/neu anawsterau dysgu cymedrol i ysgafn i ddatblygu ac ymestyn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.
Bydd dysgwyr ar y cwrs lefel mynediad hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys ymgorffori’r sgiliau gweithredol sef llythrennedd, rhifedd a TGCh.
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau galwedigaethol gan gynnwys lletygarwch ac arlwyo, gofal anifeiliaid, celfyddydau creadigol, celfyddydau perfformio, chwaraeon a hamdden, menter busnes, y gyfraith a gwyddoniaeth fforensig, garddwriaeth, profiad gwaith a datblygiad personol a chymdeithasol.
Manylion y cwrs
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y dysgwyr yn cael mynd i mewn i’r gymuned leol ar gyfer gweithgareddau profiad gwaith grŵp gan gynnwys gweithio yng nghanolfan gymunedol Aberystwyth, fferm alpaca ac Animalarium y Borth.
Mae cyfleoedd ar gyfer ymweliadau oddi ar y safle gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleoedd hyn yn rhoi sesiynau ymarferol realistig ac yn ymgorffori’r hyn a gafodd ei ddysgu o fewn gwersi yn y coleg mewn senarios ‘bywyd go iawn’.
Cefnogir dysgwyr yn y dosbarth, yn ystod amserau cinio ac egwyl ac ar weithgareddau oddi ar y safle gan ein tîm o gynorthwywyr cymorth dysgu. Bydd dysgwyr yn dechrau dangos ymagwedd fwy annibynnol at ddysgu a gwybod eu hawliau a’u cyfrifoldebau.
Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau byw’n annibynnol unigol y dysgwyr, annog iechyd a lles positif, darparu sgiliau cyflogadwyedd a byw yn y gymuned.
Mae’r rhaglen ddysgu wedi’i chynllunio i sicrhau bod y dysgwyr yn cael mynediad i bedwar piler dysgu i helpu dysgwyr fagu hyder mewn bywyd bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Sgiliau Byw’n Annibynnol
-
Iechyd a Lles
-
Cymuned
-
Cyflogadwyedd
Gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau pellach os yw’n briodol. I ddechrau, gall myfyrwyr symud ymlaen i Lwybr 3 Paratoi ar gyfer Cyflogaeth, Arlwyo Lefel 1, Astudiaethau Galwedigaethol Lefel 1 neu Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 1 yn Aberystwyth.
Gall dysgwyr eraill symud ymlaen i gyflogaeth (gwirfoddol, â chymorth neu gyflogaeth â thâl).
Mae’r rhaglen ddysgu yn darparu strwythur y gall dysgwyr ei ddefnyddio i gyflawni eu canlyniadau personol a chyrraedd eu potensial.
Mae pum cam yn y broses asesu. Mae’r camau’n dilyn proses sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael targedau sy’n SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig a Chyfnodol).
CAM 1 - Nodau’r rhaglen ddysgu
CAM 2 - Asesiad cychwynnol
CAM 3 - Gosod amcanion
CAM 4 - Adolygiad ffurfiannol o’r dysgu
CAM 5 - Asesiad crynodol o gyflawniad.
Mae’r broses wedi’i datblygu’n benodol i gefnogi personoli cyrchnodau dysgu a mesur cyflawniad ar lefel unigol. Mae asesu yn cynnwys gwybodaeth ymarferol a gweithredol. Bydd myfyrwyr yn creu portffolio o dystiolaeth.
Mae gwersi Tiwtorial Wythnosol yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o themâu a phynciau allweddol. Trwy ein rhaglen Diwtorial rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo gwaith tîm Lles Coleg Ceredigion.
Dyma drosolwg o rai o’r themâu a’r pynciau y bydd y dysgwyr yn eu hastudio a’u harchwilio: Gwrth-Fwlio, Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Diogelwch ar y Rhyngrwyd, Diogelu, Dyletswydd Prevent a Mis Hanes Pobl Dduon.