
Llwybr 1 - Datblygiad Personol a Chymdeithasol
- Campws Rhydaman
Rhaglen lefel mynediad yw hon wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr a all fod yn cael amgylchedd ystafell ddosbarth gyffredin yn heriol.
Cwrs rhagarweiniol ydyw wedi’i gynllunio i gwmpasu anghenion unigol pob dysgwr, mewn amgylchedd diogel a meithringar.
Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau annibynnol dysgwyr, annog iechyd a lles positif, darparu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol, ac mae wedi’i gynllunio i helpu adeiladu hyder ar gyfer bywyd bob dydd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gallai dysgwyr o Lwybr 1 symud ymlaen o fewn Llwybr 1 neu i Lwybr 2. Yn dibynnu ar gyfleoedd lleol ac anghenion unigolion, gall dysgwyr symud ymlaen i ganolfannau dydd.
Bydd yna system ar gyfer gosod targedau SMART unigol, clir ac ar gyfer monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn y targedau hyn gan ddefnyddio’r dull RARPA (Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad).
Hefyd bydd rhaglenni’n ddigon hyblyg i addasu targedau a gweithgareddau lle mae hyn yn angenrheidiol. Caiff dysgwyr eu cefnogi i gasglu tystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd, i ddangos ac asesu eu cynnydd yn erbyn eu targedau o fewn y pedwar piler.
Cynhelir adolygiadau rheolaidd yn erbyn y targedau penodol gyda phob dysgwr er mwyn edrych ar y cynnydd hwn a gosod targedau newydd lle bo angen.
Tra gall rhaglenni gynnwys ychydig bach o achrediad lle bo’n briodol ar gyfer y dysgwr, y prif ffocws fydd ar ddarparu gweithgareddau fydd yn adlewyrchu anghenion dysgwyr unigol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag mae cael cynnig o le ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd pontio ynghyd ag atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol yr Ysgol, Ysgolion arbennig, ysgolion a cholegau arbenigol Annibynnol a Gyrfa Cymru.
Bydd dysgwyr hefyd yn ymgymryd ag asesiad sylfaenol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.