
Llwybr 2 - Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Chyflwyniad i Gyflogaeth
- Campws Rhydaman
Rhaglen lefel mynediad yw hon wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr a all fod yn cael amgylchedd ystafell ddosbarth gyffredin yn heriol.
Cwrs rhagarweiniol ydyw wedi’i gynllunio i gwmpasu anghenion unigol pob dysgwr, mewn amgylchedd diogel a meithringar.
Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau annibynnol dysgwyr, annog iechyd a lles positif, darparu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol, ac mae wedi’i gynllunio i helpu adeiladu hyder ar gyfer bywyd bob dydd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygiad Personol a Chymdeithasol
Mae’r cwrs hwn yn seiliedig yn bennaf o gwmpas y syniad o waith, gwirfoddoli, y cartref a’r gymuned.
Yn ogystal ag ystod amrywiol o sgiliau byw’n annibynnol, bydd dysgwyr yn ymgymryd â rhaglen yn ymwneud â Phedwar Piler Dysgu. Cynlluniwyd y rhaglen hon ar sail dull person-ganolog er mwyn bodloni anghenion unigol.
Wedi’i seilio’n bennaf o gwmpas y syniad o’r cartref, hamdden a chymuned, bydd dysgwyr yn edrych ar sgiliau sydd eu hangen i redeg cartref llwyddiannus a byddant yn cyflawni gwaith/gwirfoddoli. Bydd angen iddynt ddangos ymagwedd fwy annibynnol tuag at ddysgu fel rhan o’r cwrs hwn.
Bydd sgiliau’n seiliedig o gwmpas coginio, glanhau, smwddio, ymddangosiad, (personol a’r cartref), cyllidebu, mathau o gyswllt, diogelwch, siopa (bwyd ac ar gyfer y cartref). Bydd yr agwedd gymunedol yn archwilio cymuned leol pob dysgwr a’u hanghenion unigol.
Bydd sesiynau’n canolbwyntio ar gyfleusterau (lleol, sirol, ymhellach os oes angen), cludiant, teithio’n seiliedig ar resymau cymdeithasol a dewis personol, defnydd diogel o dechnolegau TGCh.
Cyflwyniad i Gyflogaeth
Bydd y cwrs hwn yn dilyn cyfarwyddiadau’r cwrs Cyflwyniad i Gyflogaeth Llwybr 1 er mwyn sicrhau uwchsgilio parhaus. Y prif ffocws fydd y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni cyflogaeth effeithiol a bydd disgwyl i ddysgwyr ddangos ymagwedd fwy annibynnol tuag at ddysgu.
Bydd dysgwyr yn archwilio’r amrywiol gyfleoedd cyflogaeth yn eu hardal leol, cludiant, hyfforddiant a chostau’n gysylltiedig â dechrau cyflogaeth. Bydd y cylch cyflogaeth o fewn y gymuned neu wedi’i leoli ar y safle.
Bydd y cyfleoedd hyn yn rhoi sesiynau ymarferol realistig ac yn ymgorffori’r hyn a gafodd ei ddysgu o fewn y sesiynau addysgu mewn sefyllfaoedd ‘bywyd go iawn’.
Trwy astudio ar y rhaglen hon, bydd dysgwyr yn:
-
Cymryd rhan yng ngwaith cynllunio person ganolog eu rhaglen unigol, nodi eu cryfderau presennol a meysydd ar gyfer datblygu sgiliau perthnasol o fewn y fframwaith pedwar piler.
-
Cytuno ar dargedau unigol realistig ar gyfer eu rhaglen ddysgu.
-
Ymwneud â gweithgareddau dysgu ymarferol o fewn pob un o feysydd y fframwaith pedwar piler
-
Gweithio i wneud cynnydd ar eu targedau unigol trwy weithgareddau dysgu sy’n berthnasol i’w bywydau cyfredol, eu trawsnewidiad i oedolaeth a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
-
Gweithio i wneud cynnydd ar dargedau unigol sy’n cynnal, datblygu a gwella sgiliau cyfathrebu, sgiliau rhifedd a sgiliau llythrennedd digidol trwy weithgareddau wedi’u hymgorffori o fewn y fframwaith pedwar piler
-
Cymryd rhan mewn adolygiadau person ganolog o’u dysgu, gan nodi cynnydd a wnaed yn erbyn targedau unigol a chytuno ar y camau nesaf
Mae cyrsiau wedi’u cynllunio i fod yn seiliedig o gwmpas y pedwar piler sef:-
-
Sgiliau Byw’n Annibynnol
-
Iechyd a Lles
-
Cymuned
-
Cyflogadwyedd
Caiff cymorth cyfathrebu, rhifedd a sgiliau digidol ei ymgorffori yn y sesiynau.
Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn gallai dysgwyr aros ar Lwybr 2, symud ymlaen yn fewnol i Lwybr 3 neu symud ymlaen i asiantaethau allano.
Bydd yna system ar gyfer gosod targedau SMART unigol, clir ac ar gyfer monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn y targedau hyn gan ddefnyddio’r dull RARPA (Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad).
Hefyd bydd rhaglenni’n ddigon hyblyg i addasu targedau a gweithgareddau lle mae hyn yn angenrheidiol. Caiff dysgwyr eu cefnogi i gasglu tystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd, i ddangos ac asesu eu cynnydd yn erbyn eu targedau o fewn y pedwar piler.
Cynhelir adolygiadau rheolaidd yn erbyn y targedau penodol gyda phob dysgwr er mwyn edrych ar y cynnydd hwn a gosod targedau newydd lle bo angen.
Tra gall rhaglenni gynnwys ychydig bach o achrediad lle bo’n briodol ar gyfer y dysgwr, y prif ffocws fydd ar ddarparu gweithgareddau fydd yn adlewyrchu anghenion dysgwyr unigol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag mae cael cynnig o le ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd pontio ynghyd ag atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol yr Ysgol, Ysgolion arbennig, ysgolion a cholegau arbenigol Annibynnol a Gyrfa Cymru.
Bydd dysgwyr hefyd yn ymgymryd ag asesiad sylfaenol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.