Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Blwyddyn (Llawn Amser 3 diwrnod yr wythnos)
Ym mlwyddyn un, bydd y cwrs yn darparu’r wybodaeth greiddiol sydd ei hangen i gwblhau’r unedau, ond bydd gan ddysgwyr hyd at 16 mis i gwblhau’r cymhwyster.
Mae un ar ddeg o unedau gorfodol sy’n eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a gwybodaeth wrth i chi wirfoddoli yn eich rôl cefnogi addysgu a dysgu.
Manylion y cwrs
Dulliau astudio:
- Rhan amser
Hyd y cwrs:
Blwyddyn (Llawn Amser 3 diwrnod yr wythnos)
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Deall ysgolion a cholegau fel sefydliadau
- Datblygiad plant a phobl ifanc
- Diogelu plant a phobl ifanc
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amgylchedd dysgu i blant a phobl ifanc
- Cynnal perthnasoedd gyda phlant a phobl ifanc
- Cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc
- Cefnogi ymddygiad cadarnhaol mewn amgylchedd dysgu i blant a phobl ifanc
- Cyfrannu at weithio mewn tîm mewn amgylchedd dysgu
- Deall chwarae a hamdden plant a phobl ifanc
- Hyrwyddo amgylchedd dysgu effeithiol
- Darparu arddangosfeydd mewn amgylchedd dysgu