Prentisiaeth - Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Rhydaman
Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3 lle mae’r dysgwr yn ‘ennill cyflog wrth ddysgu’. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu cyflogi fel Cynorthwywyr Addysgu neu weithwyr cymorth tebyg sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb o fewn rôl eu swydd.
Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Bydd y Prentis yn mynychu’r coleg am brynhawn/noson a dylai gyflawni’r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae’n ymdrin â phob agwedd ar gymorth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i ategu dysgu ochr yn ochr â’r athro; cymorth dwyieithog; cymorth anghenion arbennig; a datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen. Mae staff profiadol, gwybodus a chefnogol yn cyflwyno unedau yn y coleg.
Mae unedau gorfodol yn cynnwys:
- Deall datblygiad plentyn a pherson ifanc;
- deall sut i ddiogelu lles plant a phobl Ifanc;
- Hyrwyddo cydraddoldeb;
- amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc;
- cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc;
- cefnogi gweithgareddau dysgu.
Enghraifft o unedau opsiynol:
- Cefnogi datblygu llythrennedd;
- cefnogi datblygu rhifedd;
- darparu cymorth dwyieithog ar gyfer addysgu a dysgu;
- cefnogi plant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau o drawsnewid yn eu bywydau;
- arwain gweithgarwch allgyrsiol; arwain ac ysgogi eraill.
Mae sgiliau cymhwyso rhif hanfodol, sgiliau cyfathrebu hanfodol a sgiliau llythrennedd digidol hanfodol hefyd yn ofynnol o ran y fframwaith.
Gall dysgwyr symud ymlaen i’r Dystysgrif Lefel 4 ar gyfer yr Ymarferydd Uwch mewn Ysgolion a Cholegau, gradd sylfaen neu rolau arbenigol o fewn y gweithlu.
Mae’r cymhwyster hwn yn asesiad seiliedig ar E-bortffolio drwy gasgliad o aseiniadau ysgrifenedig a gwaith cwrs, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion Mynediad: Rhaid bod y prentisiaid yn cael eu cyflogi fel aelodau o weithlu’r ysgol sy’n cefnogi’n uniongyrchol addysgu a dysgu disgyblion mewn maes sy’n gofyn am wybodaeth a sgiliau arbenigol. Amodol ar gyfweliad llwyddiannus.