Skip page header and navigation

TAR/TBA mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio a’i chyflwyno i’ch cefnogi ar eich taith i ddod yn athro o fewn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae’r rhaglen ran-amser, dwy flynedd hon yn rhoi cyfle i chi archwilio’r damcaniaethau sylfaenol diweddaraf ac esblygol o ran addysgu a dysgu effeithiol ac yn rhoi cyfleoedd parhaus i chi gymhwyso ac adolygu eich ymarfer ar yr un pryd hefyd. 

Mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar roi i chi’r offer y bydd eu hangen arnoch, nid yn unig yn eich ymarfer addysgu, ond ar gyfer gyrfa ehangach ym maes addysg.

Rydyn ni’n cynnig nifer o opsiynau llwybr yn dibynnu ar eich cymwysterau ar fynediad fel a ganlyn:

  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant – addas ar gyfer y rheiny sy’n gwneud cais nad oes ganddynt radd israddedig ond mae ganddynt brofiad helaeth o fewn eu proffesiwn, ac efallai eu bod eisoes yn ymwneud â pheth addysgu a/neu hyffordd fel rhan o hyn.
  • Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant – addas ar gyfer y rheiny sy’n gwneud cais sydd eisoes yn meddu ar radd israddedig ac sy’n dymuno cael cymhwyster addysgu ar gyfer y sector ôl-16 oed.
  • Tystysgrif mewn Addysg a Hyfforddiant i Raddedigion – addas ar gyfer y rheiny sy’n gwneud cais sydd eisoes yn meddu ar radd israddedig ac sy’n dymuno ennill rhai credydau lefel meistr fel rhan o’u hastudiaethau i’w rhoi tuag at gymhwyster MA priodol yn dilyn cwblhau.
  • Noder, nid yw’r Dystysgrif i Raddedigion yn ddyfarniad cofrestradwy. Mae myfyrwyr cymwys sy’n dymuno ymgymryd â hwn yn gallu trosglwyddo i’r rhaglen hon ar ôl cwblhau blwyddyn 1: mae hyn yn amodol ar gytundeb rheolwr y rhaglen.

Gwneir ceisiadau’n uniongyrchol drwy’r botwm gwneud cais uchod, a chânt eu derbyn drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Croesewir ymholiadau anffurfiol i dîm y rhaglen os hoffech chi wirio a yw’r cwrs yn addas ar eich cyfer. Gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliad anffurfiol ar ôl gwneud cais er mwyn asesu eu gofynion cyn dechrau’r rhaglen.

Noder nad yw’r rhaglen hon yn rhoi Statws Athro Cymwysedig.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Wedi’i hail-ddilysu o’r newydd yn 2020 i adlewyrchu anghenion y diwydiant addysgol yn awr ac yn y dyfodol a darpar gyflogwyr. 
  • Cyflwynir y cyrsiau gan ymarferwyr deinamig, myfyriol a phrofiadol sy’n gweithio mewn addysg bellach ac uwch ar hyn o bryd. Mae’r staff addysgu’n arbennig o feithriniol ac maen nhw’n ymarferwyr proffesiynol yn eu meysydd sy’n annog ac yn datblygu eu dysgwyr
  • Mae’r modiwlau i gyd yn canolbwyntio ar ymarferwyr a’r twlcit
  • Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer Dysgu Proffesiynol, Arloesi Digidol ac Ymchwil Weithredu 
  • Mae system diwtorial yn sicrhau bod gennych gefnogaeth bersonol ac ar sail un i un trwy gydol y rhaglen.
  • Mae’n bosibl gwneud yr holl waith aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyflwynir y gwersi’n ddwyieithog a chaiff siaradwyr Cymraeg eu neilltuo i diwtor personol sy’n siaradwr Cymraeg fel y gellir cynnal tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Rhan orau’r cwrs yw’r rhwydwaith cefnogi sy’n ffurfio rhwng y dysgwyr, sy’n parhau i gadw mewn cysylltiad ymhell ar ôl i’r cwrs orffen

Dilysir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.  

Ym mlwyddyn un, bydd y cwrs yn gosod sylfaen gadarn iawn i’r cyfranogwr yn holl agweddau ymarferol addysgu a hyfforddi.  Bydd blwyddyn dau yn adeiladu ar flwyddyn un, gan ymgyfarwyddo cyfranogwyr o ran polisi, newid sefydliadol a phroffesiynol o fewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Dros y ddwy flynedd, caiff saith modiwl eu hastudio, 60 credyd y flwyddyn, gyda dwyster o 50%:

Unedau - Blwyddyn 1

  • Y Twlcit Addysgu 1 (20 credyd)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol (10 credyd)
  • Arloesi Digidol ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)
  • Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr (10 credyd)

Unedau - Blwyddyn 2

  • Y Twlcit Addysgu 2 (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol a’r Ymarferwr PCET (20 credyd)
  • Prosiect Ymchwil Weithredu (20 credyd)

Cwrs rhan-amser dwy flynedd hyblyg sy’n bodloni canllawiau’r Adran Gyflogaeth ar gyfer athrawon a hyfforddwyr, sy’n cael eu cyflogi’n llawn amser neu sy’n chwilio am waith llawn amser yn y sector addysg oedolion gan gynnwys addysg uwch ac addysg ôl-orfodol.

Does dim arholiadau, mae pob cyfranogwr yn gweithio gyda’i diwtor personol i arddangos gwybodaeth a sgiliau trwy aseiniadau a gwaith ymarferol.

Dylai fod gan bob ymgeisydd gymhwyster academaidd lefel uwch, crefft neu gymhwyster proffesiynol cyfwerth.  Mae lefel dda o gyfathrebu, sgiliau rhifiadol a sgiliau technoleg gwybodaeth yn hanfodol.

Rhaid i ymgeiswyr i’r rhaglen ôl-raddedig fod yn raddedigion cyn iddynt ymuno â’r rhaglen.  Mae’r lleoliad yn rhan hollbwysig o’r cwrs lle byddwch yn cael eich asesu yn eich gweithle.   Bydd yr holl ymgeiswyr yn ymgymryd ag o leiaf 100 awr o addysgu neu hyfforddi dros y ddwy flynedd. Efallai y bydd cyfleoedd i chi wneud y lleoliad hwn yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion, fodd bynnag bydd hyn yn dibynnu ar natur eich arbenigedd ac argaeledd mentor.

Os ydych eisoes mewn rôl addysgu yn eich gweithle gofynnir am lythyr o gadarnhad gan eich rheolwr llinell i gadarnhau y bydd yn cefnogi eich ymarfer dysgu ac y bydd gennych fentor lleoliad lle rydych chi’n addysgu.