ESOL - Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Cynigir rhaglenni ESOL i gynorthwyo unigolion â gallu cyfyngedig o ran Saesneg i gael y sgiliau iaith angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu, addysg a chyflogaeth yn eu cymunedau newydd.
Mae dau ddosbarth prynhawn yn y coleg yn Aberystwyth ac un dosbarth nos ar-lein ar lefel ganolradd.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydyn ni’n ymarfer yr holl sgiliau iaith
- Siarad a gwrando
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhai sgiliau rhifedd ac astudio hefyd.
Rydym yn annog dysgwyr sydd eisiau gweithio tuag at
- Ymuno â chyrsiau eraill yn y coleg neu’r brifysgol
- Dod o hyd i swydd.
Efallai yr hoffech wella lefel eich Saesneg am resymau teuluol, er enghraifft helpu plant neu wyrion gyda gwaith ysgol ac rydym yn hapus i helpu.
Rydym yn cynnig help i adeiladu portffolios o waith ar gyfer tystysgrifau ESOL Agored.
Rydyn ni’n hoffi ymateb i anghenion pob dysgwr - er enghraifft, i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer arholiadau allanol fel:
- Prawf Theori Gyrru
- Saesneg ar gyfer Dinasyddiaeth e.e. y Drindod, Caergrawnt
- Prawf bywyd yn y DU
- Prawf Saesneg Galwedigaethol
- Mae dosbarthiadau yn agored i bob dysgwr o ddechreuwyr (A1) hyd at lefel ganolradd (B2).
- Gallwch ymuno ar unrhyw adeg o’r flwyddyn rhwng mis Medi a mis Mehefin.
- Fe ddylech chi ymweld â’r coleg yn gyntaf i siarad am ddosbarthiadau i chi eich hun, mae croeso i chi ddod gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod.
Bydd angen i chi brynu gwerslyfr.