Skip page header and navigation

Bydd Coleg Sir Gâr a Choleg Newydd Rhydychen yn ymuno’n fuan fel rhan o gais llwyddiannus y coleg i ddod yn rhan o Raglen Camu i Fyny’r brifysgol.

Mae’r rhaglen yn cefnogi myfyrwyr Safon Uwch yn eu dilyniant academaidd gydag ymweliadau i Brifysgol Rhydychen ac oddi yno, gan weithio gyda myfyrwyr prifysgol presennol a’u timau allgymorth.

Mae Coleg Sir Gâr yn un o 40 o ysgolion a cholegau i gael eu cynnwys mewn rhaglen ledled y DU gyfan lle bydd myfyrwyr yn elwa ar gyngor a chefnogaeth wrth fynd i’r afael â thasgau megis profion mynediad, gwneud ceisiadau a thechnegau cyfweliad.

Bydd y bartneriaeth hon yn cychwyn yn ystod tymor cyntaf y coleg ym mis Medi sy’n golygu y bydd myfyrwyr Mwy Galluog a Thalentog (MAT) yn elwa cyn gynted â’u bod yn dechrau yn y coleg ac fe fydd hyn yn parhau bob blwyddyn. 

Meddai Angharad Mansfield, darlithydd mewn hanes a chymdeithaseg a phennaeth adran ar gyfer myfyrwyr UG yng Ngholeg Sir Gâr: “Nod y bartneriaeth hon yn y pen draw yw helpu myfyrwyr i gydnabod bod Rhydychen a phrifysgolion cyflawnwyr uchel eraill yn gyraeddadwy. Ac i ategu hyn fe fydd ymweliad â Choleg Newydd Rhydychen a gweithgareddau eraill ar hyd y flwyddyn.

“Mae llawer o fyfyrwyr eisoes yn gadael y coleg ac yn astudio ym mhrifysgolion Grŵp Russell. Maen nhw’n astudio graddau fel economeg, peirianneg awyrennol, y gyfraith a meddygaeth ond bydd y rhaglen hon yn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth i fyfyrwyr ac i’r hyn rydyn ni’n ei gynnig yn ein darpariaeth Safon Uwch.

“Rydyn ni’n falch iawn i fod yn rhan o hyn ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ffaith y bydd ein myfyrwyr yn elwa ac yn cael eu hysbrydoli.”

Mae canlyniadau Safon Uwch y coleg wedi bod yn gyson uchel dros nifer o flynyddoedd gyda pherfformiadau pwnc nodedig y llynedd gan gynnwys bioleg, mathemateg, mathemateg bellach, ffiseg a chymdeithaseg gydag ieithoedd tramor modern yn cyflawni cyfradd lwyddo A*-A 100%.

New college university of oxford logo

Rhannwch yr eitem newyddion hon