Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr unwaith eto yn dathlu eu llwyddiannau ar ddiwrnod canlyniadau, gan nodi blwyddyn arall o lwyddiant academaidd.  Mae canlyniadau 2024 wedi bod yn arbennig o drawiadol, gyda llawer o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagorol ac yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ledled y wlad.  Mae gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr a’r staff wedi talu ar ei ganfed, gyda nifer o straeon llwyddiant yn dod i’r amlwg mewn gwahanol bynciau.

Enillodd Kiera Meal A A A*

Gorffennodd Kiera ei chyfnod yng Ngholeg Sir Gȃr gyda llwyddiant mawr, gan ennill graddau uchaf A*, A ac A yn ei harholiadau Safon Uwch.  Astudiodd Kiera y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg yn y coleg a bydd yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg ym mis Medi.

Meddai Kiera:  “Mae’r staff wedi bod mor hyfryd, yn enwedig y tîm lles.  Mae cael gweithio gyda rhai o’r staff eraill gydag undeb y myfyrwyr wedi bod yn lefel wahanol o gysylltiad â bywyd coleg, roedd yn wych.” 

Enillodd Hannah Carpenter A*, A* A

Mae Hannah wedi cwblhau ei harholiadau Safon Uwch yn llwyddiannus gan orffen gydag A*, A* ac A mewn addysg gorfforol, bioleg a seicoleg.  Bydd yn datblygu ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerfaddon yn astudio gwyddor chwaraeon.

Meddai Hannah:  “Fe wnaeth y coleg fy helpu’n fawr, mae e fel cymuned fawr – roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda.  Fe wnaethon nhw fy nghefnogi yn fy astudiaethau, roedd y darlithwyr yn dda am roi deunydd a chyngor i mi.”

Enillodd Jack Kessell A, A, A

Roedd Jack wrth ei fodd yn agor ei ganlyniadau a dysgu bod ei waith caled wedi talu ar ei ganfed gan y bydd nawr yn mynd i Brifysgol Bangor i astudio  meddygaeth - gyda’i freuddwyd o fod yn feddyg o fewn gafael. Enillodd Jack A, A ac A mewn cemeg, bioleg a seicoleg. 

Meddai Jack: “Dw i wrth fy modd, does gen i ddim geiriau. Roeddwn i mor nerfus ond wrth allu edrych ar y graddau hynny, dw i mor mor hapus! 

Enillodd Esther Morris A, A, A

Cafodd Esther ddiwrnod canlyniadau hynod lwyddiannus, gan ennill A, A, ac A mewn hanes, busnes a gwleidyddiaeth.  Hi yw’r person cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol, mae ei theulu mor falch o’i chyflawniad.  Bydd Esther yn astudio cysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Royal Holloway Llundain ym mis Medi eleni.

Myfyrwr gyda'i rhieni yn edrych yn hapus
Two people hugging happily

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau