Skip page header and navigation
Susan Ford in a white lab coat with the Sir Gar 6 logo on it

Eleni mae Coleg Sir Gâr yn peilota menter newydd ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch sy’n ystyried astudio graddau mewn amrywiol feysydd sy’n cefnogi’r sectorau meddygol ac iechyd. 

Nod y fenter, a elwir yn Rhaglen Maes Meddygol, yw rhoi profiad ymarferol a gwybodaeth am y cyrsiau gradd sydd ar gael iddynt, i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gofal iechyd a meddygaeth.

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, bydd y coleg a’r brifysgol yn cyflwyno sesiynau rhagflas pwrpasol, gan ganiatáu i fyfyrwyr archwilio gyrfaoedd mewn meysydd iechyd a meddygol hefyd nad ydyn nhw efallai wedi bod yn ymwybodol ohonynt, megis biocemeg, gwyddorau gofal iechyd, awdioleg, peirianneg adsefydlu, radiograffeg, geneteg feddygol, ffarmacoleg, osteopathi, seicoleg a mwy. 

Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim ac fe fydd yn cynnwys pedair sesiwn, a gynhelir yn ystod amser tiwtorial myfyrwyr ac felly ni fydd yn ymyrryd ar unrhyw sesiynau addysgu.  Bydd pob sesiwn yn cynnwys sgwrs gan arbenigwr yn ei faes, gyda gweithdy ar y llwybr gyrfaol hwnnw yn dilyn. Caiff myfyrwyr gyfle i ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf y brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, gan gynnig cyfleoedd gweithredol iddynt i archwilio’r sgiliau cemegol, clinigol sy’n ofynnol ar gyfer y math yma o yrfa.  Hefyd fe fydd digon o gefnogaeth bwrpasol ar broses ymgeisio UCAS a bywyd prifysgol.

Mae darlithydd Safon Uwch Coleg Sir Gâr Dr Susan Ford, yn arwain y fenter gyda Phrifysgol Abertawe. Meddai: “Rydyn ni’n llawn cyffro wrth lansio’r Rhaglen Maes Meddygol pwrpasol, newydd hon gyda’n prifysgol bartner.

“Mae myfyrwyr mor aml yn dechrau eu Safon Uwch heb unrhyw syniad o’r llwybr gyrfaol maen nhw am ddilyn.  Maen nhw am wneud rhywbeth seiliedig ar wyddoniaeth yn aml, ond oni bai bod aelodau teuluol yn gweithio yn y maes hwn does dim syniad ganddynt am y cyfoeth o swyddi gwyddoniaeth sydd ar gael iddynt yn y maes meddygol.  Rydyn ni’n gobeithio defnyddio’r rhaglen hon i dynnu sylw at rolau gyrfaol sy’n cwmpasu’r proffesiwn meddygol fel genetegwr, gwyddonydd gofal iechyd, gwyddonydd cwsg.  Mae cymaint o “swyddi y tu ôl i’r llenni” sy’n cefnogi ein system iechyd gwladol a’n system feddygol breifat ar agor iddynt.

“Mae’r dewis o bwnc ar lefel Safon Uwch yn gallu bod yn hollbwysig, gan nad yw myfyrwyr yn aml yn sylweddoli beth yw’r gofynion mynediad ar gyfer ymgeisio am y mathau yma o gyrsiau.  Mae myfyrwyr yn cymryd bod bioleg yn hanfodol, fodd bynnag Safon Uwch cemeg sydd fel arfer yn cael ei nodi, ar gyfer y math yma o gwrs gradd.  Felly, rydyn ni hefyd yn gobeithio ymgysylltu â myfyrwyr blwyddyn 11 o’r ysgolion cyfun sy’n ein bwydo.

“Mae’r rhaglen bwrpasol hon gyda Choleg Sir Gâr ar agor i’r holl fyfyrwyr sy’n bodloni’r gofynion mynediad cyfredol ar gyfer Safon Uwch yn y coleg sef chwech TGAU ar raddau A* to C.

“Rhowch gynnig arni, dewch i astudio gwyddorau gyda ni ac fe ddangoswn ni ystod o gyfleoedd i chi sy’n bodoli yn y maes gwaith cyffrous hwn.”

Pictured above is Dr Susan Ford who is piloting the project at Coleg Sir Gâr.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau