Skip page header and navigation

Mae myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi ennill prentisiaeth gydag un o’r pedwar cwmni rhyngwladol cyfrifeg a gwasanaethau proffesiynol mwyaf ble bydd yn astudio i fod yn gyfrifydd, ac yn y pen draw, yn ennill statws cyfrifydd siartredig.

Ar hyn o bryd mae Olivia Williams yn astudio Ffrangeg, daearyddiaeth, bioleg a Bagloriaeth Cymru o fewn rhaglen Safon Uwch 6ed Sir Gâr y coleg ac ar gwblhau, bydd hi’n cael ei chyflogi gyda KMPG ym Mryste o fis Medi.

Mae KMPG yn un o’r 4 Mawr, sef y pedwar cwmni mwyaf sy’n delio gydag archwiliadau, treth, gwaith ymgynghori a gwasanaethau cynghori ariannol i brif gorfforaethau. Mae’r cwmni’n gweithredu mewn 143 o wledydd ac ar y cyd yn cyflogi mwy na 270,000 o bartneriaid a phobl, gan wasanaethu anghenion busnes, llywodraethau, asiantaethau sector cyhoeddus, cwmnïau nid er elw a’r marchnadoedd cyfalaf.

Nid oedd y fyfyrwraig 17 oed, sy’n hanu o Gaerfyrddin, wedi bwriadu gweithio yn y gwasanaethau ariannol oherwydd pan ddechreuodd yn y coleg, roedd ei bryd ar yrfa mewn swoleg, ond dechreuodd fod yn ansicr ynghylch ei ddilyn fel gyrfa. Ar ôl siarad gyda’i mam, a oedd yn meddwl efallai bod ganddi’r bersonoliaeth a’r sgiliau i ddilyn gyrfa mewn busnes, edrychodd ar opsiynau eraill.

Meddai Olivia Williams: “Yn y cyfweliad, rwy’n credu roedd tua 120 o ymgeiswyr eraill a oedd yn gymysgedd o brentisiaid, graddedigion ac interniaid.

“Gwnaeth y broses gyfan bara chwe awr gyda dau asesiad 50-munud ac roedd y broses yn heriol ar y cyfan.

“Gan ddechrau gyda’r asesiad cyntaf, oedd yn cynnwys cwestiynau rhifiadol a sefyllfaol, roedd rhaid i fi restru’r hyn y byddwn yn fwyaf tebygol o wneud neu beidio yn y senario honno. Yna cawson ni asesiad tebyg gan ddefnyddio ymatebion fideo gyda dau funud i baratoi a dau funud i gyflwyno.”

Am y ddwy flynedd gyntaf, bydd Olivia yn gweithio tuag at ei chymhwyster AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu), sy’n un o gymwysterau mwyaf cydnabyddedig y diwydiant mewn gwasanaethau ariannol ac yna bydd yn gweithio tuag at gymhwyster ACA i ennill statws cyfrifydd siartredig.

Ychwanegodd Olivia Williams: “Rwy’n falch iawn ohonof fy hun am gyflawni hyn, dyma’r unig brentisiaeth roeddwn i wedi gwneud cais amdani. Roedd bod yn llwyddiannus gyda fy nghais cyntaf yn swrrealaidd, yn enwedig gan nad wyf yn astudio economeg neu fathemateg a fyddai gan lawer o’r ymgeiswyr eraill.

“Hefyd doedd dim cwmni penodol gen i mewn golwg ond roedd KPMG yn ymddangos fel cwmni sy’n hidio am eu pobl ac roedd hyn yn eu gwneud yn wirioneddol apelgar.

“Rwy’n llawn cyffro ynghylch Bryste. Rwy’n dwlu ar ble rwy’n byw nawr, ond rwy’n teimlo y bydd symud i Fryste yn agor cymaint o gyfleoedd i mi o ran gwaith a bydd yn fy helpu i dyfu fel unigolyn.”

Ychwanegodd Nina Theodoulou, darlithydd Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Olivia wedi gwneud yn neilltuol o dda i ennill prentisiaeth mewn archwilio gyda KPMG.

“Cwblhaodd hi bedair rownd o broses ymgeisio gystadleuol iawn ac fe fydd yn cychwyn ei phrentisiaeth ym mis Medi; rydyn ni’n falch iawn o Olivia a’i llwyddiant.”

 Olivia yn sefyll yn erbyn wal blaen yn edrych ar y camera mewn top glas a chôt

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau