Astudio Technoleg Gwybodaeth (TG) a Chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Ydych chi’n frwdfrydig dros dechnoleg ac yn awyddus i adeiladu dyfodol yn y sector Technoleg Gwybodaeth deinamig ac arloesol? Mae’r cyrsiau TG a Chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth gadarn i chi o ochr dechnegol ac ochr greadigol y diwydiant ac i gynnig profiad ymarferol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys datblygu gwefannau, rhwydweithio, amlgyfryngau, seiberddiogelwch a mwy.
Gyda sector technoleg y DU yn tyfu’n gyflymach nag erioed, ni fu erioed cystal amser i chi gamu i’r maes cyffrous hwn. P’un a ydych yn bwriadu symud ymlaen i Addysg Uwch, dechrau prentisiaeth, neu gamu’n syth i gyflogaeth, bydd ein cyfleusterau modern sydd â chyfarpar da a’n staff addysgu arbenigol yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant.
Gan ganolbwyntio ar wella eich cyflogadwyedd, mae’r cyrsiau Cyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn datblygu’n gyson er mwyn parhau’n berthnasol ac mae ein briffiau byw sy’n ymwneud â’r diwydiant yn golygu y cewch gyfle i ymarfer eich sgiliau mewn senarios byd go iawn.
Os ydych chi’n edrych am lwybr galwedigaethol, ymarferol tuag at yrfa mewn TG, yna astudio TG a Chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw’r trywydd i chi. Dewch i ymweld â ni ar ddiwrnod agored, llenwch ffurflen gais a dechreuwch eich taith heddiw.
Pam astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura gyda ni?
Past Students
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Sicrhau swyddi yn y diwydiant gan gynnwys adeiladu a dylunio robotiaid ar gyfer Comau, gweithgynhyrchwr ceir blaenllaw.
- Astudio gradd Meistr mewn Seiberddiogelwch
- Ennill cystadleuaeth Datblygu Gwefannau WorldSkills
Cyflwynwyd gwobr arian fawreddog CyberFirst i Goleg Sir Gâr am ei ymrwymiad i ddarparu addysg seiberddiogelwch o safon uchel.
Mae’r tîm cyfrifiadura, sy’n dysgu TG o lefel un i HND, yn un o bum coleg yng Nghymru sydd wedi ennill y cyflawniad hwn a ddyfernir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n rhan o GCHQ. Meddai Jason Lovell, sy’n ddarlithydd cyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr:
“Rydyn ni’n llawn cyffro i fod wedi ennill y wobr hon gan ein bod eisoes wedi bod yn cefnogi myfyrwyr drwy gyfleoedd seiberddiogelwch mewn cystadlaethau cenedlaethol ac mae llawer wedi symud ymlaen i astudio pynciau seiber berthynol yn y brifysgol.
“Mae seiberddiogelwch yn rhan anhepgor a datblygol o’r diwydiant cyfrifiadura ac mae’n hanfodol ein bod yn cynnig y cyfleoedd hyn i’n myfyrwyr a’r gymuned ehangach.”
Newyddion Perthnasol...
Graddiodd Rachel Evans o Goleg Sir Gâr gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cyfrifiadura cymhwysol ac mae hi wedi gweithio i gwmnïau sy’n cynnwys Facebook, Stiwdios Paramount, Walmart, Apple, Tesla, Shell a British Airways.
Mae diddordeb brwd wedi bod gan David Sayers mewn animeiddio erioed a dewisodd astudio cwrs TG lefel tri ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion gan fod y cymhwyster yn cynnwys modiwlau animeiddio.
Mae myfyrwyr peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan mewn ymweliad addysgol tramor â Chroatia ble ymwelon nhw â’r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn ne-ddwyrain Ewrop.