O gwrs TG i adeiladu robotau
Mae diddordeb brwd wedi bod gan David Sayers mewn animeiddio erioed a dewisodd astudio cwrs TG lefel tri ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion gan fod y cymhwyster yn cynnwys modiwlau animeiddio.
Ar ôl graddio o’r coleg enillodd David le i astudio ym Mhrifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant, gan raddio oddi yno gyda chlod.
Ers hynny mae David wedi bod yn gweithio fel peiriannydd dibynadwyedd a chynaladwyedd, yn adeiladu a dylunio robotau ar gyfer Comau, cwmni gweithgynhyrchu ceir arweiniol sydd wedi’i leoli ym Mirmingham.
Meddai David Sayers: “Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth mae Coleg Ceredigion wedi gwneud i mi.
“Roedd gen i diwtoriaid gwych a wnaeth addysg yn llawer o hwyl, rhywbeth rwy’n teimlo sy’n beth prin iawn yn y byd sydd ohoni.
“Yn ogystal, helpon nhw fi i adeiladu fy hyder, yn enwedig mewn sefyllfaoedd pan oeddwn dan bwysau.
“Hefyd, rwy’n ddiolchgar oherwydd oni bai am y coleg fyddwn i ddim yn gwneud y swydd rwy’n ei gwneud heddiw. Y peth yn fy CV a wnaeth yr argraff fwyaf ar fy nghyflogwyr oedd y wybodaeth amrywiol, ond eto manwl, am gyfrifiadura a meddalwedd benodol a ddysgais pan oeddwn yn y coleg.”
Ychwanegodd Marion Phillips, tiwtor cwrs Coleg Ceredigion: “Roedd David yn fyfyriwr hyfryd i’w addysgu gan ei fod yn rhoi o’i orau bod amser.
“Rydym ni fel adran wrth ein bodd yn clywed sut mae wedi dod ymlaen ers iddo adael y coleg, rhywbeth roedden ni bob amser yn hyderus y byddai’n ei wneud.”