Skip page header and navigation

Graddiodd Rachel Evans o Goleg Sir Gâr gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cyfrifiadura cymhwysol ac mae hi wedi gweithio i gwmnïau sy’n cynnwys Facebook, Stiwdios Paramount, Walmart, Apple, Tesla, Shell a British Airways.

Dywed bod y sector cyfrifiadura yn enfawr ac nid oedd yn siŵr ar y dechrau, ym mha faes i arbenigo. Ond oherwydd bod y cwrs yn cynnig profiad mewn rhaglennu, rhwydweithio, diogelwch a dylunio roedd wedi gallu rhoi cynnig ar bopeth ac yn y diwedd fe ddewisodd hi raglennu a wnaeth yn ei dro arwain at yrfa mewn peirianneg meddalwedd.

Ni ddaeth Rachel o gefndir cyfrifiadura ac roedd hi wedi astudio Safon Uwch yn y coleg ymlaen llaw, ond gwnaeth hi gais am y cwrs gan ei bod yn gwybod bod gan y coleg amgylchedd dysgu cyfeillgar a dosbarthiadau llai eu maint gyda llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid.

Dewisodd hi gyfrifiadura gan ei fod yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd cymdeithas. Yr hyn a wnaeth apelio fwyaf ati oedd y sgiliau trosglwyddadwy a enillir wrth astudio gradd fel datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Meddai Rachel Evans: “Pan oeddwn i’n cofrestru ar y cwrs, meddyliais mai fi fyddai un o’r ymgeiswyr mwy gwan a gwnaeth hyn i mi bryderu ac amau. Fodd bynnag, roedd swm y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan y tiwtoriaid heb ei ail.

“Gwnes i hyd yn oed gofrestru ar gwrs dosbarth nos y coleg, Cydymaith Rhwydweithiau Ardystiedig Cisco (CCNA).”

Yn union cyn graddio, cafodd Rachel gynnig amodol o rôl swydd gyda Hoowla, llwyfan trawsgludo.

Yn anffodus, daeth cyfnod o ddiswyddiadau i’r cwmni ac effeithiodd hyn ar Rachel, ond chollodd hi ddim gobaith. Aeth hi ymlaen i gwblhau nifer o swyddi gan gyfrannu at amrywiaeth o wahanol gynhyrchion gan gynnwys datblygu meddalwedd diogelwch ffisegol, fintech (cyllid­), meddalwedd trawsgludo a llawer mwy.

Ar hyn o bryd, mae Rachel yn gweithio i gwmni Kalibrate Technologies Ltd fel datblygwr rhwydwaith lle mae hi’n ymwneud â chylch bywyd datblygu meddalwedd o’r manylion cyntaf, y cam profi datblygiad drwodd i ddefnyddio, datblygu nodweddion hyd at gymorth diwedd llinell i gleientiaid, yn ogystal â chefnogi aelodau iau ei thîm.

Ychwanegodd Rachel Evans: “Elfen anoddaf ond y fwyaf gwerth chweil o ddilyn gyrfa mewn datblygu yw’r ffaith nad yw dau ddydd yr un peth; mae datrys problemau yn cyfrif am  ran sylweddol o bob dydd ond rhoddodd y radd y blociau adeiladu i mi ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

“Mae dilyn gyrfa mewn unrhyw faes sy’n gysylltiedig â ThG ddim y peth mwyaf hawdd, gyda’r fath ystod o feysydd arbenigol ac esblygiad newidiol parhaus y byd technoleg, ond mae’n werth chweil iawn. Nid yn unig yw hon yn un o’r marchnadoedd swyddi sy’n talu orau yn y byd, ond mae’n caniatáu i chi drawsnewid eich gyrfa i’r hyn rydych chi am wneud ohoni. Mae hyfforddiant, hyblygrwydd, diwylliant, teithio i gyd yn enghreifftiau o rhai yn unig o’r buddion rwyf wedi’u profi ar hyd fy nhaith yrfaol.

“Rwy’n ddiolchgar i fod wedi cael y cyfle i ymuno â’r cwrs hwn, oherwydd hebddo fyddwn i ddim lle rydw i heddi.”

Cyrsiau cyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr

Rachel yn eistedd i lawr yn edrych ar y camera

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau