Skip page header and navigation

Astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ydych chi’n barod i ryddhau eich creadigrwydd a throi eich diddordeb brwd dros gelf yn yrfa foddhaus? Croeso i gyfadran fywiog Celf a Dylunio Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, lle nad oes terfyn i ddychymyg ac mae pob strôc brwsh yn gam tuag at hunanddarganfod ac arloesedd.

Yn ein cyrsiau Celf a Dylunio nid dysgu am gelf yn unig fyddwch chi; byddwch chi’n ymgolli mewn byd o bosibiliadau diddiwedd, gan archwilio ystod eang o gyfryngau, technegau ac arddulliau. O luniadu a pheintio i gerflunio a dylunio digidol, bydd ein darlithwyr arbenigol yn eich tywys drwy gwricwlwm ymarferol sy’n meithrin eich llais artistig unigryw ac yn eich grymuso i wthio ffiniau creadigrwydd.

Nid yw’n ymwneud yn unig â’r hyn rydych yn ei greu; mae’n ymwneud â’r effaith y byddwch yn ei chael. Nid yw gyrfa mewn celf a dylunio yn ymwneud â llunio pethau prydferth yn unig – mae’n ymwneud ag adrodd straeon, tanio emosiynau, ac ysbrydoli newid. P’un a ydych yn cael eich denu gan y cynfas, yr olwyn neu’r oriel, bydd ein rhaglen yn eich cyfnerthu i drawsnewid eich diddordeb angerddol a dilyn trywydd creadigrwydd gydol oes.

Felly, os ydych yn barod i ryddhau eich artist mewnol a chychwyn ar daith o hunanfynegiant, ymunwch â ni i astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Gyda’n gilydd, gadewch i ni beintio dyfodol mwy llewyrchus a gadael argraff barhaol ar y byd.

Pam astudio Celf a Dylunio gyda ni?

01
Stiwdios celf pwrpasol gyda chyfarpar traddodiadol a chyfoes ar gyfer gwaith gwneud creadigol gan gynnwys olwynion cerameg ac odynau, ystafelloedd tywyll ffotograffig, ffowndri fetel, gwyddiau, meddalwedd animeiddio a mwy.
02
Grwpiau bach pwrpasol yn arwain at ddysgu sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn er mwyn helpu datblygu eich creadigrwydd a’ch meddwl beirniadol.
03
Staff ymrwymedig a chreadigol sy’n ymarferwyr ac yn gweithio yn eu diwydiant.

Past Students

Tri myfyriwr yn paentio gwallt lliw llachar ac wedi'u hamgylchynu gan gyflenwadau celf.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Amrywiol swyddi o fewn y celfyddydau creadigol megis; ffotograffydd teledu a ffilm, dylunydd propiau, dylunydd ffasiwn a thecstilau, darlunydd llyfrau, animeiddiwr, curadur amgueddfa a mwy.
  2. Wedi sefydlu eu busnesau celf a dylunio eu hunain.
  3. Wedi mynd ymlaen i astudio pellach ac ennill graddau Meistr a chymwysterau addysgu.
Myfyrwyr mewn dillad amddiffynnol yn gweithio yn y ffowndri fetel. Mae'r ddelwedd yn dywyll ac wedi'i hamlygu gan wreichion o fetel a thân.

Ysgol Gelf Caerfyrddin

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi bod yn darparu addysg Gelf ers 1854, fel un o’r Ysgolion Celf cyntaf i gael ei sefydlu ym Mhrydain yn dilyn yr Arddangosfa Fawr yn y Palas Grisial yn Llundain. Byth ers hynny mae’r Ysgol wedi bod yn datblygu’n barhaus, wrth ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, creadigol a diwylliannol ac anghenion newidiol ei myfyrwyr, y diwydiant a’r gymuned ehangach. 

Cyrsiau Perthnasol...

Gwnaeth Will Matthews, myfyriwr sylfaen celf a dylunio, argraff ar y panel a’r cyhoedd yng ngwobrau celf Osi Rhys Osmond gan ennill y wobr gyffredinol a dewis y bobl.

Luke Osmond and Will Matthews holding award

Treuliodd bron i 30 o fyfyrwyr celf a dylunio o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr dridiau ym Merlin yn archwilio diwylliant yr Almaen a phob dim creadigol.

A hotel building with a creative mural down the side

Mae Laura Thomas, artist sefydledig tecstilau wedi’u gwehyddu a darlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, wedi ennill aur yn Eisteddfod genedlaethol 2024.

Laura Thomas stood in gallery in front of her artwork