Astudio Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Ydych chi’n frwdfrydig dros fwyd, pobl, a chreu profiadau bythgofiadwy? Camwch i fyd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, lle mae eich cariad at y celfyddydau coginiol a gwneud coctels, yn cwrdd â chyfleoedd diddiwedd ar gyfer creadigrwydd, arloesedd a thwf gyrfa.
Ar ein cyrsiau, ni fyddwch yn dysgu ryseitiau neu weini byrddau’n unig; byddwch yn meistroli crefft a gwyddor coginio, o dechnegau sylfaenol i sgiliau coginiol uwch Yn ein cyfleusterau cegin o’r radd flaenaf, bydd pen-cogyddion profiadol a rheolwyr lletygarwch yn eich arwain trwy gwricwlwm ymarferol sy’n cwmpasu popeth o baratoi bwyd a’i gyflwyno i gynllunio bwydlenni a rheolaeth bwyty.
Ond nid yw’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn y gegin yn unig. Mae ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn eich paratoi ar gyfer pob agwedd ar y diwydiant, o wasanaeth blaen tŷ a rheolaeth bar, i sgiliau cymysgu coctels a sgiliau barista. Trwy weithio yn ein bwytai hyfforddi sy’n agored i’r cyhoedd, fe gewch chi ddigon o gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd mewn amgylchedd realistig.
Os ydych chi’n gogydd cartref neu rywun sy’n frwd dros gymysgu coctels sy’n awyddus i roi hwb i’ch hyder yn y gegin, mae gennym hefyd amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser a byr ar gael, sy’n eich galluogi i fireinio’ch brwdfrydedd i fod yn dalent goginiol drawiadol.
Felly, os ydych chi’n barod i ddechrau eich antur ym myd Arlwyo a Lletygarwch, llenwch ffurflen gais, galwch i mewn i ddiwrnod agored i weld ein ceginau a gyda’n gilydd, gadewch i ni fwynhau blas llwyddiant.
Pam astudio Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?
Past Students
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Weithio mewn lleoliadau proffesiynol fel Claridge’s, L’Esgargot, Wright’s Food Emporium, Ynyshir, Potted Pig, The Savoy, The Ritz
- Ennill Medalau Cymru a WorldSkills
- Gweithio gyda phen-cogyddion fel Marco Pierre White a Simon Wright, John Williams MBE, Michele Roux, Gareth Ward, Steve Groves, James Sommerin a Nathan Davies.
Ein Bwytai Hyfforddi
Newyddion Perthnasol...
Mae Oliver Lacey, sy’n fyfyriwr Coleg Ceredigion wedi cael ei enwi’n ail yn y DU am ei sgiliau coginiol yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn Riso Gallo ar gyfer y DU ac Iwerddon, a gynhaliwyd yn Llundain.
Mae darlithydd yng Ngholeg Ceredigion wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth fawreddog Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y DU Urdd Crefft y Pen-cogyddion, 2024.
Mae’r gyn-fyfyrwraig Elizabeth Forkuoh wedi dangos yn union yr hyn y gellir ei gyflawni o astudio coginio proffesiynol a lletygarwch yn y coleg, trwy weithio fel rheolwr cynorthwyol mewn gwesty pum seren a dringo’r ysgol goginiol i gael ei henwi’n enillydd yr Ysgoloriaeth Gwasanaeth Aur, gwobr Blaen tŷ fwyaf mawreddog y DU.
Mae astudio arlwyo a lletygarwch ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr yn agor i fyny cyfleoedd i weithio ym mhroffesiynau coginio proffesiynol a gwasanaeth blaen y tŷ, tra’n dysgu sgiliau arbenigol oddi wrth ddarlithwyr sydd wedi gweithio fel pen-cogyddion proffesiynol ac mewn rolau rheolaeth lletygarwch.