
Bwytai Hyfforddi
Croeso
Mae ein bwytai hyfforddi ar agor i’r cyhoedd ac maen nhw’n cynnig bwyd a diod o ansawdd uchel am brisiau fforddiadwy. Ynghyd â gwasanaethau cinio canol dydd, rydyn ni’n cynnal ystod o nosweithiau â thema ar hyd y flwyddyn.
I archebu bwrdd gweler y wybodaeth gyswllt isod. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ein bwytai yn Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin.
Trwy weini i gwsmeriaid go iawn mewn amgylchedd proffesiynol, mae ein dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd, sy’n eu paratoi nhw ar gyfer byd gwaith. Mae ein myfyrwyr a’n staff addysgu wedi ennill gwobrau am eu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd ar lefelau lleol a chenedlaethol.
Cegin Sir Gâr - Pibwrlwyd
Cegin Sir Gâr yw cyfleuster hyfforddi Coleg Sir Gâr ar gyfer egin-gogyddion a maître d’staff. Mae’r Cegin Sir Gâr yn cynnig bwydlen table d’hote ac mae wedi hen ennill ei blwyf am ansawdd ei fwyd a’i wasanaeth, a gallwch fwynhau prydau o safon bwyty am brisiau rhesymol.
Drwy gydol y flwyddyn bydd Cegin Sir Gâr yn croesawu rhai o brif bencogyddion gwadd y sir i weithio gyda myfyrwyr, gan gynhyrchu bwydlenni arbennig a digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd. Mae gan y bwyty hefyd gyfleuster bach sydd ar gael i’w logi ar gyfer seminarau a chyfarfodydd.



@Aberista - Aberystwyth
@Aberista yw bwyty hyfforddi proffesiynol Coleg Ceredigion ar gampws Aberystwyth. Mae myfyrwyr yn dysgu eu crefft gan ddefnyddio cyfarpar cyfoes, yn perffeithio’r sgiliau technegol sydd eu hangen i baratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel mewn lleoliad cyfoes lle mae’r addurniad yn adlewyrchu’r ardal arfordirol.
Defnyddir yr ynys arddangos eliptig i goginio o flaen cwsmeriaid. Mae’n darparu’r ffocws ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos rheolaidd gyda phen-cogyddion lleol a chyn-fyfyrwyr lle maent yn arddangos eu sefydliadau ochr yn ochr â’r myfyrwyr.



Bwyty Maes y Parc - Aberteifi
Bwyty Maes y Parc yw bwyty hyfforddi proffesiynol campws Aberteifi lle rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar ar gyfer ein gwesteion o’r gymuned. Mae’r bwyty yn helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd, sy’n eu paratoi ar gyfer y byd gwaith. Cynigia’r bwyty ystod amrywiol o fwydlenni i’r cyhoedd dros y flwyddyn academaidd.
Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau am eu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd gan gystadlu ar lefelau lleol a chenedlaethol.
Mae gan ein bwyty berthnasau ardderchog gyda chyflogwyr lleol ac mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu i wella’r sgiliau a’r profiad a gynigiwn i’n dysgwyr.



