Darlithydd yn cael gwahoddiad i gystadlu am deitl Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y DU
Mae darlithydd yng Ngholeg Ceredigion wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth fawreddog Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y DU Urdd Crefft y Pen-cogyddion, 2024.
Bydd Sam Everton, darlithydd mewn coginio proffesiynol a phen-cogydd gwobrwyedig, yn cystadlu yn erbyn arbenigwyr coginiol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig gan gynnwys y rheiny sy’n cynrychioli gwesty’r Savoy, Tŷ’r Cyffredin a gwesty’r Dorchester.
Gan gynrychioli Coleg Ceredigion, caiff y dasg o greu bwydlen tri-chwrs ar gyfer cinio canol dydd cain.
Ar gyfer y cwrs cyntaf bydd cystadleuwyr yn cynhyrchu saig pasta agnolotti llysieuol wedi’i lenwi â chynhwysyn a chwilotwyd neu a gynhyrchwyd yn lleol.
Bydd y prif gwrs yn arddangos halibwt Norwyaidd gyda saws menyn ac mae pwdin yn cynnwys pwdin choux wedi’i lenwi gyda ffrwythau a phiwri ffrwyth tymhorol.
Mae mynediad i gystadleuaeth Pen-cogydd Ifanc Dawnus Gorau, Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc trwy wahoddiad yn unig, sy’n gwneud y dewisiad yn anrhydedd hyd yn oed mwy clodfawr.
Eleni, enillodd Sam Everton deitl Pen-cogydd Iau Cymru 2024 a chyn hynny, enillodd deitl Pen-cogydd Ifanc Gorau yng Nghymru 2023 yng nghystadleuaeth Young Chef Young Waiter.
Oherwydd ei lwyddiant wrth gystadlu, aeth Sam ymlaen i gystadlu ymhellach, gan gynrychioli Cymru yn y ffeinal fawr ym Monaco lle enillodd ef a’i bartner, Carys, y drydedd wlad orau yn y byd.
Mae Sam Everton hefyd yn gweithio fel Chef de Partie yn Y Seler yn Aberaeron.
Mae rhai o uchafbwyntiau Sam yn y gorffennol yn cynnwys cael ei enwi’n Ben-cogydd Ifanc y Flwyddyn Cymru yn 2017, y Pen-cogydd Gorau (o dan 22 oed) ym Mhrydain yn 2018-2019, cynrychioli Prydain ledled y byd mewn lleoedd fel Awstralia, y Ffindir, Tsieina, Sweden a Dubai a chael ei enwi’n bumed pen-cogydd ifanc gorau yn y byd mewn cystadleuaeth WorldSkills yn Rwsia.
Meddai Sam Everton: “Roeddwn wrth fy modd pan welais fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer a chael gwahoddiad i gystadlu yn y gystadleuaeth enwog hon yn y diwydiant.
“Mae’r digwyddiad hwn yn sefydlu pen-cogydd yn gadarn fel seren ar gynnydd y byd coginiol yn y DU a hefyd tu hwnt ac mae’n brofiad a geisir yn ddyfal gan y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant.
“Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd i gael gwahoddiad ac rwy’n llawn cyffroi. Byddaf yn cynllunio fy nehongliad fy hun i weddu briff y fwydlen yn fuan.”