Pedwar dysgwr yn dweud wrthym am eu profiad o astudio arlwyo a lletygarwch ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr
Introduction
Mae astudio arlwyo a lletygarwch ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr yn agor i fyny cyfleoedd i weithio ym mhroffesiynau coginio proffesiynol a gwasanaeth blaen y tŷ, tra’n dysgu sgiliau arbenigol oddi wrth ddarlithwyr sydd wedi gweithio fel pen-cogyddion proffesiynol ac mewn rolau rheolaeth lletygarwch.
Mae bwyty hyfforddi masnachol y coleg, Cegin Sir Gâr a cheginau â chyfarpar y diwydiant yn cynnig lle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol mewn amgylchedd realistig.
Mae gan ddarlithwyr gyfoeth o brofiad mewn bwytai, rheoli digwyddiadau a gwestai. Mae rhai wedi gweithio gyda phen-cogyddion â sêr Michelin, yn berchen ar eu busnesau eu hunain, ac wedi gweithio mewn lleoliadau clodfawr fel y Ritz.
Hefyd mae yna lawer o gyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau Cymru a WorldSkills y DU ac ymuno â’r llu o enillwyr medalau’r coleg sydd wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus.
Mae sgyrsiau ysbrydoledig, gweithdai ac ymweliadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant hefyd yn cyfoethogi taith y dysgwr.
Mae Robert, Corey, Ryan a Harry ar hyn o bryd yn astudio arlwyo a lletygarwch lefel un ac maen nhw am rannu eu profiadau ar y cwrs, a ddechreuon nhw y mis Medi hwn.
Dewch i wybod mwy am fwytai hyfforddi’r coleg yma.
Ar daith goleg yn ddiweddar fe wnaeth Robert gwrdd â’r pen-cogydd enwog Michel Roux Jr yn y Good Food Show ym Mirmingham lle cafodd lyfr wedi’i lofnodi.
Cefais fy ysbrydoli i ddod i astudio yng Ngholeg Sir Gâr gan fod fy mam, sy’n rheolwr arlwyo, wedi astudio yno lawer o flynyddoedd yn ôl. Roedd cwrdd â Michel Roux yn anhygoel ac fe ofynnodd i mi am y cwrs rwyf arno a dywedodd ei fod yn hapus i weld cenhedlaeth newydd yn dod drwodd gyda diddordeb mewn coginio.
Yn bersonol, rwy’n hoffi pobi a phatisserie a’r ochr goginio, ond ers i mi ddechrau, rwyf wedi dod i ymddiddori yn yr elfen letygarwch, dysgu am fesurau a diodydd sy’n mynd gyda bwyd. Ceir cefnogaeth dda hefyd, rwy’n teimlo’n hapus wrth ddod i’r coleg. Mae fy narlithydd yn gefnogol iawn, mae hi’n berson hapus ac mae help yno pan rydych ei angen.
Wedi’i ysbrydoli gan goginio cartref a phen-cogyddion enwog, mae Harry’n dweud bod pobl sy’n creu delwedd wael o’r diwydiant yn anghywir, os oes gennych y brwdfrydedd i weithio’n galed a llwyddo.
Rwyf i bob amser wedi mwynhau coginio ac rwyf wedi pobi llawer gyda fy mam. Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i’n arfer gwylio’r rhaglen Gordon Ramsay’s Kitchen Nightmares ac eistedd yno yn meddwl dyna beth rwyf i am wneud. Gwnes i wir fwynhau taith y coleg i The Good Food Show, roedd yn wych ac yn llethol bron ond mewn ffordd dda.
Roedd gweld Michel Roux Jr yn syfrdanol. Gweithiais i gyda rhywun oedd yn ffan mawr ohono felly roeddwn yn gyfarwydd â’i waith ac rwy’n meddwl ei fod yn ben-cogydd anhygoel. Rwy’n hoffi’r ffordd mae’n gallu gwneud prydau gwych sy’n edrych yn syfrdanol o gynhwysion syml. Rwy’n caru’r cwrs hwn; dydych chi ddim yn eistedd i lawr yr holl amser ac rydych yn cael gwneud llawer o bethau gwahanol.
Rwyf wedi dysgu pethau newydd fel sgiliau cyllyll a gwneud crwst choux a theisennau crwst bach melys. Mae’r tiwtoriaid yn wych ac rwy’n gwybod gallaf ofyn unrhyw beth i unrhyw un ohonynt a chael yr help rwyf ei angen. Yn bersonol, rwy’n credu bod gormod o bobl yn creu delwedd wael o’r diwydiant ac rwy’n meddwl eu bod yn anghywir, oherwydd os ydych yn frwdfrydig amdano, byddwch yn ei fwynhau.
Roedd arlwyo a lletygarwch bob amser yn mynd i fod yn yrfa ddewisol i Corey.
Mae fy mam yn rheolwr arlwyo yn y coleg ac rwyf i bob amser wedi’i helpu allan yno ac mewn lleoliadau eraill lle mae hi wedi gweithio, felly roedd yn gam naturiol i mi i astudio arlwyo a lletygarwch. Mae llawer i wneud yn y coleg, rydyn ni’n gweithio yn y brif gegin a’r gegin tasgau lle byddwn yn paratoi ac ymarfer sgiliau ac yn gwneud bwyd i’w weini yng Nghegin Sir Gâr.
Rydyn ni i gyd yn cyd-dynnu’n dda ac yn dysgu llawer o sgiliau coginio newydd fel gwneud sawsiau, bara cartref a meringue. Mae’r gefnogaeth addysgu yn wych, mae’n hamddenol iawn ac rwy’n dysgu llawer o ganlyniad i’n sgyrsiau.
I Ryan, y coleg oedd yr unig le i fynd i ddysgu sgiliau arlwyo a lletygarwch proffesiynol.
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn coginio a bod yn ben-cogydd a meddyliais fod gwell mynd i’r coleg i ddysgu sut i wneud hynny. Rwy’n hoffi coginio gartref a chymerais i goginio fel pwnc yn yr ysgol. Gwnes i wir fwynhau taith y coleg i The Good Food Show. Roedd llawer i wneud a gweld a mwynheuais i weld holl gynrychiolwyr y diwydiant a chwmnïau oedd yno.
Oherwydd fy mod yn mwynhau coginio, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl wrth ddysgu am letygarwch ond rwy’n ei fwynhau i gyd a dweud y gwir. Mae’n dangos pethau o’r ddau bersbectif i mi ac rwy’n gwybod beth sydd angen i mi wneud. Mae mynd i’r coleg yn rhoi’r profiad i mi i fy ngwneud yn well yn yr hyn rwy’n ei wneud. Hefyd mae’r tiwtoriaid yn galonogol iawn ac yn wirioneddol neis a hawdd mynd atynt, sy’n gwneud gwahaniaeth i’ch dysgu bob dydd.