Gyrfa gastronomig Elizabeth yn ennill Ysgoloriaeth Gwasanaeth Aur iddi
Mae’r gyn-fyfyrwraig Elizabeth Forkuoh wedi dangos yn union yr hyn y gellir ei gyflawni o astudio coginio proffesiynol a lletygarwch yn y coleg, trwy weithio fel rheolwr cynorthwyol mewn gwesty pum seren a dringo’r ysgol goginiol i gael ei henwi’n enillydd yr Ysgoloriaeth Gwasanaeth Aur, gwobr Blaen tŷ fwyaf mawreddog y DU.
Mae’r wobr yn cynnig y cyfle i unigolyn uchelgeisiol fireinio ei grefft trwy fentora, teithio a chyfleoedd lleoliad gwaith a ddarperir gan weithwyr proffesiynol gwasanaeth uchaf y diwydiant.
Nodwyd ei llwyddiant yng nghylchgrawn The Caterer lle cafodd ei gwobr sylw ar y clawr blaen ac mewn erthygl tair tudalen, gan dynnu sylw at ffeithiau megis cyrraedd y rhestr fer gydag unigolion fel ffwtman o blith gweision y frenhines a rheolwr o Claridge’s, Llundain.
Dechreuodd siwrnai goginiol Elizabeth yn y coleg lle i ddechrau, roedd eisiau astudio ieithoedd ond yn fuan daeth o hyd i’w brwdfrydedd dros letygarwch ac roedd ar ei ffordd i ennill medaliwn rhagoriaeth yn cystadlu yn Abu Dhabi, gan gynrychioli’r DU a’r coleg mewn gwasanaethau bwyty.
Yn ogystal, enillodd Wobr Addysg Prydain tra yn y coleg lle mae’n dweud bod gweithio yn ei fwyty hyfforddi Myrddin, yn rhan hanfodol o’i hyfforddiant.
Yn y coleg, roedd hi bob amser yn frwd am sgiliau blaen tŷ a chyflwyno gwasanaeth proffesiynol ac roedd yn aml yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau arbennig ym mwyty Myrddin.
Gan astudio NVQ mewn goruchwylio lletygarwch yn ogystal â choginio proffesiynol, bu ei thiwtoriaid ynghyd ag arbenigwyr eraill yn y diwydiant o WorldSkills UK yn meithrin sgiliau Elizabeth ac fel rhan o’r hyfforddiant, cafodd Elizabeth brofiad gwaith yn y Ritz.




