Skip page header and navigation

Astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr

Mae amaethyddiaeth wedi llunio’r ffordd y mae bodau dynol yn gweithredu fel cymdeithas ac yn parhau i ysgogi arloesedd ac effeithio ar y ffordd yr ydym yn byw heddiw.  Os ydych am ddarganfod mwy am y diwydiant amlochrog hwn a gwneud eich marc ar y byd, yna ymunwch â Chwrs Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. 

Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i roi sylw cynhwysfawr i chi o bynciau hanfodol, gan gynnwys rheoli anifeiliaid (gwartheg, defaid a moch), rheoli glaswelltir, gwyddorau planhigion a phridd, gwyddor anifeiliaid, cynhyrchu cnydau, cynaladwyedd amgylcheddol a pheirianneg amaethyddol.  P’un a oes gennych ddiddordeb yng nghymlethdodau hwsmonaeth anifeiliaid neu’r wyddoniaeth y tu ôl i dyfu cnydau, mae ein cwricwlwm yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o wybodaeth a sgiliau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant amaethyddol.

Cynhelir cyrsiau amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr ar ein fferm weithredol 211 hectar, sy’n amgylchedd delfrydol i ffermwyr uchelgeisiol, peirianwyr amaethyddol ac amgylcheddwyr i ffynnu.   Byddwch chi’n gallu cael eich dwylo’n frwnt ac ategu’r theori rydych chi’n ei ddysgu gan ei gymhwyso yn y byd go iawn.  Byddwch hefyd yn cael mewnwelediadau amhrisiadwy gan ein cyfadran brofiadol, yn cydweithio ar brosiectau ymchwil arloesol, ac yn meithrin cysylltiadau gydol oes o fewn y gymuned amaethyddol. 

Felly p’un a ydych newydd ddechrau ar eich taith amaethyddol, neu mae ffermio yn eich gwaed, ymunwch â ni ar Fferm y Gelli Aur am ddiwrnod agored, cwblhewch gais a gadewch i ni dyfu gyda’n gilydd.

Pam astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr?

01
Mae ein fferm weithredol fasnachol 211 Hectar (Llaeth, Cig Eidion a Defaid) yn darparu amgylchedd perffaith ar gyfer dysgu ymarferol a chymhwyso sgiliau yn y byd go iawn.
02
Mae gennym gysylltiadau ardderchog o fewn y diwydiant sy'n agor drysau i lawer o gyfleoedd yn eich dyfodol.
03
Mae gan ein staff gyfoeth o wybodaeth a gafwyd o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant.

Past students

Glass trophies laid out on a table

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Astudio pellach ar gwrs Addysg Uwch neu Brentisiaeth.
  2. Gweithio’n rhyngwladol ar gyfer gweithgynhyrchwyr peiriannau amaethyddol wrth ddatblygu cynnyrch.
  3. Dod yn rheolwyr fferm yn y DU ac yn rhyngwladol.
Picture of Gelli Aur campus with a herd of cattle in front

Ewch ati i ddarganfod mwy am ein Fferm weithiol yn y Gelli Aur.

Cyrsiau cysylltiedig