Mae myfyrwyr amaethyddol yn dysgu technoleg dronau i wella eu harferion ffermio
Gyda’r fantais bod drôn newydd DGI T20 ar gael ar y safle, mae myfyrwyr yn gallu gweld ei alluoedd a chael mewnwelediad i sut mae dronau’n cynorthwyo chwistrellu a rhoi cymwysiadau manwl gywir.
Mae technoleg yn datblygu’n gyson ac mae’n bwysig cadw myfyrwyr yn gyfoes ynghylch sut mae’r diwydiant yn defnyddio’r datblygiadau hyn.
Meddai Rhys James, darlithydd mewn amaethyddiaeth ar gampws amaethyddol Coleg Sir Gâr yn y Gelli Aur: “Mae manteision chwistrellu â chymorth drôn yn cynnwys llawer o fanteision sy’n effeithio ar gymwysiadau ymarferol a diogelwch a gall fod yn rhatach na dulliau traddodiadol.
“Mae hyn yn cynnwys effeithlonrwydd a chyflymder, lle gellir targedu ardaloedd penodol o dir sydd angen triniaeth gan ddefnyddio gwrteithiau, plaladdwyr a chwynladdwyr a minimeiddio dŵr ffo cemegol.”
“Manteision eraill dronau yw bod tractorau a chwistrellwyr traddodiadol yn gallu cywasgu pridd, gan leihau ei ffrwythlondeb ond gyda dronau yn hedfan uwchben y cnydau, yn targedu ardaloedd penodol, mae hyn yn peri llai o berygl i ffermwyr a’r amgylchedd o ganlyniad i’r cemegau.
“Gall dronau dargedu tir sy’n anodd ei gyrraedd ac mae gan lawer ohonynt synwyryddion a chamerâu, gan ganiatáu amser ar gyfer casglu data byw ar iechyd cnydau, heigiadau plâu a dosbarthiad dŵr.”