Skip page header and navigation

Fferm Gelli Aur

Fferm Gelli Aur

Introduction

Mae’r Coleg yn ffermio 211 hectar o dir ffrwythlon Dyffryn Tywi, 3 milltir o Landeilo a 14 milltir o Gaerfyrddin.  Prif ffocws fferm y Gelli Aur yw cynhyrchu llaeth o laswellt. Mae gennym 500 o wartheg godro wedi’u rhannu’n ddwy fuches, sy’n golygu bod modd gwerthuso dwy strategaeth rheoli buches wahanol. 

Ochr yn ochr â’r caeau pori a’r fenter laeth, mae gennym ychydig bach o dir âr yn ogystal â gwartheg bîff, praidd o famogiaid magu a rhai moch.

Hefyd, mae’r Gelli Aur yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil Amaethyddol, sy’n anelu at hwyluso datblygiad y diwydiant amaethyddol yng Nghymru trwy drosglwyddiad rhagweithiol technoleg, a thrwy ddarparu cyngor arbenigol.

Mae cyfleusterau cynadledda’r Gelli Aur hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn ar gyfer seminarau a chyfarfodydd.  Mae’r cyfleusterau modern, ynghyd â thîm ymroddedig o ddarlithwyr, hyfforddwyr a staff cymorth technegol, a gwasanaeth arlwyo ardderchog sy’n cynnig bwydlenni amrywiol yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol.

Os ydych chi’n ystyried astudio ar un o’n cyrsiau Amaethyddiaeth neu Beirianneg Amaethyddol, gallwch ymweld â’r fferm ar un o’n diwrnodau agored. 

Bob blwyddyn rydym hefyd yn cymryd rhan yn y Dydd Sul Fferm Agored, sy’n gyfle i’r cyhoedd ymweld â’r fferm a dysgu am yr hyn rydym yn ei wneud. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod pryd mae’r dyddiad nesaf ar ddod.

Facebook Fferm y Gelli Aur  

Ariel photo of Gelli Aur campus
Picture of Gelli Aur campus with a herd of cattle in front
Gelli Aur Campus
A row of calves standing on some straw.

Rhowch gipolwg ar ein Cyrsiau Amaethyddiaeth a Pheirianneg Amaethyddol