Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr peirianneg amaethyddol Coleg Sir Gâr wedi ennill gwobrau myfyrwyr Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE) a gyflwynwyd yn ffatri New Holland yn Basildon.

Enillodd Hywel Bowen 18 oed o Landeilo, y wobr ddiogelwch ac enillodd James Turner 19 oed o Sir Benfro, y wobr cynnyrch.

Datblygwyd Gwobr Ddiogelwch IAgrE i annog a chydnabod arloesedd mewn cynllunio neu weithredu cyfarpar neu brosesau’n ddiogel gan fyfyrwyr pynciau’n gysylltiedig â chymhwyso peirianneg i’r sector ar-dir.

Enillodd llithren slyri hydrolig Hywel y wobr trwy ganfod mater o ddiogelwch sef gweithio ar uchder, darparu amddiffyniad rhag siafftiau pŵer PTO sy’n cylchdroi a lleihau amlygiad i nwyon slyri, y mae pob un o’r rhain yn beryglon dansierus ar fferm.

Nododd y beirniaid fod Hywel yn amlwg wedi dadansoddi Ystadegau Angheuol Diwydiant, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac wedi nodi rhai rheoliadau perthnasol.

Fe wnaeth James Turner ddylunio a gweithgynhyrchu llwythwr byrnau ysbigog ôl-fowntiedig wedi’i anelu at y farchnad dyddynwyr nad ydynt yn berchen ar dractor llwythwr blaen.

Mae’r cynnyrch hwn, sydd â’r gallu i fanwfro’n fwy mewn ierdydd yn llai, yn gweithio’n arbennig o dda gyda thractoriaid gyriant dwy olwyn, gan leihau traul ar yr echel flaen gyda llwythwr ôl-fowntiedig.

Daeth y diwrnod i ben gyda thro o gwmpas y ffatri a dangosiadau cynnyrch yn cynnwys tractor New Holland pŵer methan a thractor Case IH Puma 260 CVXDrive gyda’r dechnoleg fanwl ddiweddaraf.

Meddai Rhys James, darlithydd mewn peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd y ddau yn frwdfrydig ac yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad tuag at y cwrs yn ei gyfanrwydd a’r uned brosiect hefyd.

“Roedd etheg waith Hywel a James ill dau yn galonogol i fyfyrwyr eraill ei gweld, ac yn dangos iddynt bod gwaith caled yn arwain at lwyddiant.”

Myfyrwyr gyda'u tiwtoriaid

Rhannwch yr eitem newyddion hon