Myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn ennill gwobrau clodfawr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2024
Mae dau fyfyriwr o gampws y Gelli Aur, Coleg Sir Gâr, wedi ennill gwobrau clodfawr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau i fyfyrwyr addawol a sêr newydd sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.
Mae gwobr Gwili Jones, sy’n cynnwys bwrsariaeth addysgol, yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi myfyrwyr sy’n mynd i mewn i’r diwydiant peirianneg amaethyddol trwy hwyluso lleoliad gwaith wythnos o hyd gyda gwneuthurwr o fri o fewn y sector.
Dyfarnwyd gwobr Gwili Jones i Rhys Jones, sy’n astudio diploma estynedig lefel tri mewn peirianneg amaethyddol.
Ar hyn o bryd, mae Rhys yn gweithio i Amaeth Cothi, cwmni peirianneg amaethyddol sy’n atgyweirio a gwerthu tractorau Case IH ac mae hefyd yn cynorthwyo ei fam-gu ar y fferm deuluol.
Mae’n cwblhau ei gwrs ar hyn o bryd ac yna’n bwriadu parhau â’i astudiaethau mewn peirianneg amaethyddol ym mhrifysgol Harper Adams. Yn ogystal, mae Rhys wedi sicrhau lleoliad yn Bomford Turner, gwneuthurwr torwyr cloddiau a chyfarpar torri gwair yn Evesham.
Mae’r wobr flynyddol, myfyriwr y flwyddyn, yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau NVQ lefel tri neu gyrsiau diploma BTEC mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, nyrsio anifeiliaid, rheoli ceffylau a rheoli cefn gwlad.
Eleni, dyfarnwyd gwobr myfyriwr y flwyddyn CAFC i’r fyfyrwraig amaethyddiaeth, Ela Harries.
Mae Ela newydd orffen Amaethyddiaeth Lefel 3 yn y Gelli Aur ac mae’n gobeithio mynychu’r brifysgol ym mis Medi. Meddai Ela “Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc gael eu cydnabod, mae’r wobr wedi agor drysau i mi ac wedi dangos i mi beth sydd ar gael a’r hyn y gall pobl ifanc ei gyflawni ym maes amaethyddiaeth.”