Gall cyrsiau mynediad newid bywydau pobl
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn darparu dechrau newydd a her newydd i’r rheiny sy’n cofrestru i fynd â’u taith addysgol a’u gyrfa i’r lefel nesaf.
Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i baratoi pobl sydd heb gymwysterau traddodiadol neu’r rheiny sy’n ceisio newid mewn gyrfa, ar gyfer astudio yn y brifysgol. Mae’n gwrs dwys ond meithriniol lle mae staff addysgu’n deall anghenion myfyrwyr hŷn ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu cam nesaf.
Mae’r coleg yn cynnig cyrsiau mynediad i addysg uwch mewn gofal iechyd, celf a dylunio, a dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol.
Gall Mynediad fod y cam cyntaf wrth droi eich bywyd a’ch gyrfa o gwmpas.
Eich opsiynau astudio a gyrfaol ar ôl Mynediad
Mae cyrsiau Mynediad yn cynnig ystod amrywiol o lwybrau prifysgol a gyrfaol, er enghraifft, gall y cwrs Gofal Iechyd arwain at astudiaethau a gyrfaoedd mewn nyrsio, bydwreigiaeth, gwyddor barafeddygol, ymarfer adran lawfeddygol (OPP) a nyrsio iechyd meddwl. Ar gyfer y llwybr Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol, gall gyrfaoedd a graddau gynnwys hanes ac archeoleg, y gyfraith ac astudiaethau cyfreithiol, y cyfryngau a newyddiaduraeth, seicoleg a chynghori a chymdeithaseg a pholisi cymdeithasol. Gall y llwybr Celf a Dylunio hefyd arwain at amrywiol yrfaoedd megis curadur, animeiddiwr, therapi celf, gweithiwr celfyddydau cymunedol a dylunydd arddangosfeydd.
Dywedodd Alex fod ei lwybr bywyd wedi newid ar ôl Mynediad
Yn ddiweddar cyflwynwyd Gwobr Pennaeth y coleg am Ymdrech Neilltuol i Alex Phillips, cyn-fyfyriwr mynediad. (Gweler llun ar y top).
Fel myfyriwr hŷn, roedd rhai pryderon ganddo ynghylch astudio eto ac roedd am sicrhau y byddai’n dysgu mewn amgylchedd oedolion.
Meddai Alex Phillips: “Roedd y gefnogaeth a dderbyniais yn eithriadol. Nick Fry oedd y darlithydd gorau rwyf wedi’i gael yn fy holl addysg. Roedd yn ein deall ni ac fe ysbrydolodd ei frwdfrydedd lawer ohonom i weithio’n galetach a chyflawni mwy nag yr oeddem wedi meddwl i ddechrau.
“Roedd y darlithwyr eraill yn wych hefyd ac ar ôl gweithio fy ffordd drwy’r cwrs, roeddwn i’n teimlo fy mod wedi paratoi’n dda iawn ar gyfer y brifysgol, a hyd yma rwyf wedi bod yn hedfan trwy fy ngradd sylfaen oherwydd y sgiliau a ddysgwyd i mi ar y cwrs mynediad.
“Hebddyn nhw, fyddwn i ddim ar fy llwybr bywyd ar hyn o bryd felly gallaf ond gyfleu fy edmygedd a’m parch at y tîm a helpodd fi mewn ffyrdd a oedd yn mynd y tu hwnt i’m disgwyliadau.”
Mae ein darlithwyr yn hynod o gefnogol a byddan nhw’n eich helpu i lwyddo
Meddai’r darlithydd Nick Fry: “Mae Mynediad yn gyfle i ddechrau eto a gallaf ddweud yn onest, ar gyfer yr holl gymwysterau yr wyf wedi’u haddysgu, nid oes yr un sy’n rhoi mwy o foddhad i mi’n bersonol.”
Ychwanegodd Jeremy Edwards, Uwch Diwtor Mynediad: “Nid oes unrhyw beth yn fwy boddhaol na gweld oedolion, sy’n cyrraedd yn aml â bach iawn neu dim hyder, yn ymrwymo eu hunain i astudio mewn ymgais i wella eu hunain a’u teuluoedd, yn symud ymlaen i’r cam nesaf ar eu taith. Mae cyrsiau mynediad wir yn newid bywydau pobl.”
Gwybodaeth Gwrs ar Gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch
Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Gall ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau perthnasol gymryd y cwrs (cyn-mynediad) Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach a gynigir yn rhan-amser ac yn llawn amser ar gampws y coleg yn Y Graig, dros 16 wythnos (Medi - Ionawr a Chwefror - Mehefin).