Skip page header and navigation

Dywed Trina Smith mai un o’r penderfyniadau gorau a wnaeth hi oedd gwneud cais am gwrs mynediad i addysg uwch gan ei fod wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau iddi hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd fel nyrs iechyd meddwl.

Roedd wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd lawer ag anhwylder pryder ôl-drawmatig cymhleth, ond ar ôl blwyddyn o therapi EMDR a hithau’n 36 oed, teimlai y gallai ailgynnau ei bywyd.

Gydag anogaeth gan ei therapydd a’i theulu, gwnaeth gais am y cwrs mynediad yng Ngholeg Sir Gâr a dewisodd y llwybr iechyd gan mai ei breuddwyd oedd gweithio ym maes nyrsio iechyd meddwl.

Mae’n dweud roedd y cwrs yn heriol ond yn ddiddorol ac wedi’i addysgu mewn ffordd aeddfed ac addysgiadol. “Gyda phob aseiniad a basiais, cynyddodd fy hunan-werth,” meddai.  “Roeddwn yn dal i gael trafferth gyda fy iechyd meddwl ond roedd y coleg a’r darlithwyr yn hynod gefnogol a bob amser yno pan oeddwn eu hangen.  “Roedd meddwl y gallwn i basio’r cwrs hwn gydag un TGAU i fy enw y tu hwnt i’m disgwyliadau.”

Roedd talentau Trina o’r diwedd yn dod i’r amlwg ac yn ffynnu ac enillodd hi ragoriaeth ar ôl rhagoriaeth nes ei bod hi wedi ennill 84 o ragoriaethau erbyn diwedd y cwrs.  Yn ystod ei hastudiaethau, enillodd hefyd wobrau i Sir Gaerfyrddin a Chymru yn ogystal â Gwobr Goffa Keith Fletcher.  “Am y tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd, dechreuais gredu ynof fi fy hun a chredu y gallwn fynd i’r brifysgol,” meddai.

Mae hi bellach wedi bod yn gweithio ers saith mlynedd yn ei swydd ddelfrydol fel nyrs iechyd meddwl cwbl gymwys ar ward asesu iechyd meddwl oedolion hŷn yn Ysbyty Tywysog Philip, a ddechreuodd pan adawodd y brifysgol yn 40 oed. 

Ychwanegodd: “Fyddwn i byth wedi cyflawni dim o hyn pe na bawn i wedi magu’r dewrder i wneud cais am y cwrs mynediad a’i gwblhau; cwrs a roddodd y cyfle i mi dyfu a dysgu fel oedolyn a datblygu sgiliau a gwybodaeth na ddychmygais erioed oedd yn bosibl.

“Roeddwn i’n meddwl bod y brifysgol yn rhywbeth hollol tu hwnt i’m cyrraedd, ond gwnaeth y cwrs mynediad y nod yn un cyraeddadwy, a chyflawnodd fy uchelgais o weithio mewn gyrfa yr oeddwn yn awyddus iawn i’w dilyn.”

Llun o Trina

Rhannwch yr eitem newyddion hon