Skip page header and navigation

Astudio Peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr

Ydych chi’n ddatryswr problemau ac arloeswr? Ydych chi’n hoffi deall sut mae pethau’n gweithio, gwneud atgyweiriadau neu welliannau? Mae cyrsiau peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr yn canolbwyntio ar hyfforddiant sy’n berthnasol i ddiwydiant ac maen nhw wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau a’r profiad ymarferol i chi sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym myd prysur peirianneg. 

P’un a oes diddordeb gennych mewn Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, neu Ffabrigo a Weldio, mae gennym opsiynau astudio hyblyg i ffitio eich ffordd o fyw a’ch cyrchnodau gyrfaol. Gan gynnwys llawn amser, rhan-amser neu ddysgu seiliedig ar waith. 

Ymunwch â ni mewn diwrnod agored i ymweld â’n bloc peirianneg pwrpasol a dechreuwch eich taith tuag at yrfa werth chweil heddiw.

Sectorau Peirianneg a Llwybrau Gyrfa:

Dylunio Peiriannau ac Injans, Modurol, Awyrofod, Chwaraeon Modur, Morol, Cynhyrchu Biofeddygol, Gweithgynhyrchu, Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy.

Dylunio Systemau Trydanol a Chydrannau, Goleuadau, Gwresogi, Awyru, Rhwydweithiau, Dosbarthu Pŵer.

Dylunio Systemau Electronig a Chydrannau, Telathrebu, Symudol, Roboteg, Radio/Lloeren, Cyfrifiadura, Offeryniaeth.

Dylunio Strwythurau, Adeiladu, Trafnidiaeth, Ynni a Phŵer, Twnelu, Priffyrdd/Rheilffyrdd, Systemau Cyflenwi Dŵr/Argaeau, Pontydd.

Olew/Nwy, Ynni Niwclear, Ynni Gwyrdd, Cemegion, Petroliwm, Fferylleg, Bwyd a Diod.

Opsiynau Cyrsiau Galwedigaethol Peirianneg

Llwybrau Ar Gael:

  • Llwybr Crefft (Ar gyfer rolau fel Technegydd, Gweithiwr Cynnal a Chadw, Mecanic, Offerwr, Gweithredwr, Ffitiwr, Weldiwr, Ffabrigwr)
  • Llwybr Academaidd (Ar gyfer rolau fel Dylunio, Profi, Prototeipio, Gweithgynhyrchu, Rheoli Ansawdd, Rheolaeth)

Lefel 1 - Lefel Ragarweiniol (TGAU ddim yn ofynnol)

  • Cwrs:
    • Lefel 1 Peirianneg Gyffredinol (C&G 2850 L1)
  • Opsiynau Dilyniant:
    • Lefel 2 Peirianneg Gyffredinol (C&G 2850 L2)
    • Lefel 2 Weldio a Ffabrigo (C&G 2850 L2)

Lefel 2 - Llwybr Crefft (4 TGAU yn Ofynnol ar Radd D)

  • Cyrsiau:
    • Lefel 2 Weldio a Ffabrigo (C&G 2850 L2)
    • Lefel 2 Peirianneg Gyffredinol (C&G 2850 L2)
  • Opsiynau Dilyniant:
    • Llwybr Weldio a Ffabrigo:
      • Lefel 3 Weldio a Ffabrigo (C&G 2850 L3)
      • Lefel 3 Prentisiaeth Weldio (NVQ L3/EAL L3)
    • Llwybr Peirianneg Gyffredinol: 
      • Lefel 3 Blwyddyn 1 Peirianneg Gyffredinol  (C&G 2850 L3 Bl1)
      • Lefel 3 Blwyddyn 2 - Peirianneg Fecanyddol (C&G 2850 L3 Bl2 MECH)
      • Lefel 3 Blwyddyn 2 - Peirianneg Drydanol (C&G 2850 L3 Bl2 ELEC)

Lefel 3 - Llwybr Academaidd (O leiaf 5 TGAU ar Radd C Gan Gynnwys Mathemateg/Saesneg)

  • Cyrsiau:
    • Peirianneg Uwch Ddeuol (UAL L2 a L3)
    • Lefel 3 Blwyddyn 1 Diploma Atodol Peirianneg Gyffredinol (EAL L3 Diploma Atodol a Sgiliau)
    • 3 Safon Uwch mewn Mathemateg, Gwyddorau a Chyfrifiadura (Llwybr amgen academaidd pur)
  • Opsiynau Dilyniant:
    • Llwybr Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol:
      • Diploma Estynedig Lefel 3 Blwyddyn 2 Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol (EAL L3 Dip Est)
      • Diploma Estynedig Technegol Lefel 3 Blwyddyn 2 Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol (EAL L3 Dip Est Tech)
      • HNC Lefel 4 Rhan-amser neu Lawn Amser - Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol  (HNC)
      • HND Lefel 5 Rhan-amser neu Lawn Amser Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol  (HND)
      • Gradd-Brentisiaeth - 5 Mlynedd Ran-amser Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol (BSc neu BEng)
      • Gradd Brifysgol - 3 Blynedd BSc neu BEng
Glass trophies laid out on a table

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Cael swyddi mewn cwmnïau clodfawr fel TATA, Jaguar, Aston Martin
  2. Gyrfaoedd llwyddiannus fel darlithwyr Peirianneg 
  3. Astudio PHD mewn Prifysgol 

Newyddion Perthnasol...

Mae myfyrwyr peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan mewn ymweliad addysgol tramor â Chroatia ble ymwelon nhw â’r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn ne-ddwyrain Ewrop.

Students sat around a monument

Bydd myfyrwyr peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr yn parhau i elwa ar adnewyddiad diweddar achrediad y coleg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).

Karen, head of engineering with lecturer Chris and two engineering degree students