Rhagoriaeth mewn peirianneg i barhau wrth i’r coleg adnewyddu achrediad nodedig Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)
Bydd myfyrwyr peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr yn parhau i elwa ar adnewyddiad diweddar achrediad y coleg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
Mae adran beirianneg y coleg wedi bodloni safon drwyadl a osodwyd gan IMechE sy’n golygu y bydd myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i ennill statws Peirianneg Gorfforedig (IEng) pan fyddant yn cwblhau eu cwrs gradd neu brentisiaeth.
Mae’r statws achrededig hwn yn dangos bod myfyrwyr wedi cyrraedd safon y DU ar gyfer cymhwysedd peirianneg broffesiynol.
Cefnogir y safon IMechE gan y Cyngor Peirianneg sy’n gosod meincnod ar gyfer achrediad academaidd mewn colegau a phrifysgolion.
Mae Coleg Sir Gâr yn unigryw yn y ffaith mai prifysgolion yn bennaf yn hytrach na cholegau sy’n ennill statws IMechE. Hefyd mae’n un o’r nifer bach o sefydliadau yng Nghymru i ennill y dyfarniad.
Dywed darlithydd Coleg Sir Gâr Dr Chris Davies fod yr achrediad yn cadarnhau ansawdd yr addysg a gyflwynir gan beirianwyr a darlithwyr profiadol o fewn yr adran. “Mae’r cwrs gradd wedi’i hen sefydlu o fewn y coleg a’r gymuned ac yn ogystal caiff ei achredu gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant,” meddai. “Mae’n unigryw i’r ardal leol lle gall dysgwyr ddechrau eu taith mewn peirianneg o 16 oed a gweithio eu ffordd i fyny at lefel gradd anrhydedd os dyna yw eu dewis. Hefyd rydyn ni’n cynnig y radd fel darpariaeth ran-amser er mwyn helpu’r rheiny mewn cyflogaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd.”
Mae cyrsiau wedi’u cynllunio’n sylweddol ar gyfer anghenion cyflogwyr a diwydiant lleol a gwnaeth y broses achredu ymchwilio i nifer o nodweddion yn y coleg gan gynnwys manwl gywirdeb academaidd, ansawdd cyflwyno, cyfleusterau, rhagoriaeth staff a phrofiad diwydiannol.