Skip page header and navigation

Astudio Modurol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Os oes gennych chi frwdfrydedd am geir, yn mwynhau gweithio gyda’ch dwylo ac wrth eich bodd yn deall sut mae pethau’n gweithio, yna gallai astudio cwrs Modurol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion eich arwain at yrfa werth chweil yn llawn cyfleoedd.

Mae’r diwydiant modurol yn datblygu’n gyson, ac mae galw mawr am fecanyddion medrus bob amser.  Ar ein cyrsiau byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer atgyweirio, cynnal a chadw a diagnosio problemau modurol. Yn ein gweithdai pwrpasol o safon ddiwydiannol, bydd gennych fynediad i amrywiaeth o adnoddau hyfforddi sy’n bodloni anghenion y sector, gan gynnwys rigiau hyfforddi technoleg Hybrid a Thrydanol a chanolfan achredu profion MOT.

Mae gan ein staff addysgu gymwysterau uchel gydag arbenigedd yn y maes ac maen nhw wedi’u hyfforddi mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau y byddwch yn ennill y profiad ymarferol sydd ei angen i’ch paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau.  Gall cymhwyster mewn mecaneg cerbydau modur agor drysau i wahanol lwybrau gyrfa, megis dod yn dechnegydd modurol, rheolwr gwasanaeth, neu hyd yn oed beiriannydd modurol gydag astudiaeth bellach.

Felly, os oes gennych yr ysfa am ddyfodol yn y diwydiant modurol, ymunwch â ni am ddiwrnod agored, cwblhewch ffurflen gais a dechreuwch ar y ffordd i ddyfodol boddhaus.  

Pam astudio cyrsiau Modurol gyda ni?

01
Gweithdai pwrpasol, llawn cyfarpar gydag amrywiaeth o adnoddau hyfforddi arbenigol i ddiwallu anghenion y diwydiant, gan gynnwys rigiau hyfforddi technoleg Hybrid a Thrydanol.
02
Cysylltiadau gwych gyda'r diwydiant moduro lleol i helpu datblygu eich rhwydwaith proffesiynol.
03
Ystod eang o gyrsiau ar gael o lefel mynediad a phrentisiaethau, i gyrsiau byr sy'n bodloni gofynion DPP penodol y diwydiant.

Past Students

Glass trophies laid out on a table

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Ddod o hyd i waith yn y Diwydiant Cerbydau Modur gan gynnwys Prif Reolwr Prosiect Powertrain yn Mclaren a mecanic ceir rasio i Dîm F1 Mercedes AMG Petronas
  2. Sefydlu eu busnesau eu hunain gan gynnwys Gorsafoedd Profi MOT a Garejys.
  3. Defnyddio’r cymhwyster Lefel 3 i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch yn y Brifysgol.

Newyddion Perthnasol...

Gyda diddordeb mawr mewn ceir, penderfynodd Tom astudio cwrs lefel dau mewn cerbydau modur ar gampws Aberteifi’r coleg cyn symud ymlaen i'r cwrs lefel tri.

Tom standing in a blue t-shirt next to a car