Skip page header and navigation

Ers gadael Coleg Ceredigion, mae Tom Kynafaeces wedi mynd o nerth i nerth.  

Gyda diddordeb mawr mewn ceir, penderfynodd Tom astudio cwrs lefel dau mewn cerbydau modur ar gampws Aberteifi’r coleg cyn symud ymlaen i’r cwrs lefel tri.

Ers gadael y coleg, mae Tom wedi bod yn gweithio fel mecanig yn Aberystwyth Car and Commercial ac wedi bod yn gofalu am geir fflyd fel Scottish Power ac ambiwlansiau.

Yn ddiwedddar, daeth Tom, sydd bob amser eisiau gwella ei hun, yn brofwr MOT cymwys ynghyd â dechrau gweithio gyda cherbydau nwyddau trwm.  

Wrth roi ei resymau dros ddewis astudio yng Ngholeg Ceredigion, dywedodd Tom:  “Dewisais astudio yng Ngholeg Ceredigion oherwydd y cyfleusterau oedd gan y coleg a’r adran cerbydau modur i’w cynnig.

“Roedd y cyfarpar a’r profiad ymarferol roedd yn eu cynnig yn ffactorau pwysig yn fy mhenderfyniad.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn y coleg yn fawr, roedd tiwtoriaid a staff yn barod iawn i helpu ac roeddent  bob amser yno i fy nghosod ar y trywydd iawn.    Roeddent bob amser yn deall ac yn gwneud y broses ddysgu mor hwyliog a difyr â phosibl. 

”Yn ôl y darlithydd modurol Anthony Goellnitz:  “Mae hi bob amser yn braf clywed am lwyddiant myfyrwyr ar ôl iddyn nhw adael y coleg ac nid yw Tom yn eithriad.   

“Gweithiodd yn galed yn ystod ei amser yn y coleg ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed.

“Rydym i gyd yn falch o gyflawniadau Tom ac yn dymuno pob lwc iddo yn ei yrfa ddisglair.”

”Wrth edrych i’r dyfodol, mae Tom yn gweithio ar ddod yn fecanig lorïau.

Tom yn sefyll mewn crys glas ger un car

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau