Astudio’r Diwydiannau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Os ydych chi’n frwd dros greu cynnwys sy’n mynegi eich gweledigaeth artistig ac yn cysylltu â chynulleidfaoedd, ein cyrsiau Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw’r cam nesaf perffaith i chi. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i roi sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd lefel uchel i chi gan ddefnyddio meddalwedd a chyfarpar safon y diwydiant. Cewch gyfle i archwilio cyfryngau digidol, ffilm, fideo, animeiddio, a chynhyrchu cerddoriaeth mewn amgylchedd ymarferol.
Yn ein cyrsiau Cyfryngau Creadigol, byddwch yn treiddio’n ddwfn i wneud ffilmiau, animeiddio, graffeg, ffotograffiaeth, a mwy, gyda mynediad i gamerâu proffesiynol, ystafelloedd golygu gydag Apple Macs, a’r meddalwedd Adobe Creative Suite diweddaraf. Byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr profiadol ac yn ennill profiad byd go iawn trwy friffiau cleientiaid proffesiynol a phrosiectau cydweithredol.
Mae ein cyrsiau Technoleg Cerdd yn cynnig cyfle i edrych yn fanwl ar gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth, gan ganolbwyntio ar beirianneg sain fyw, recordio, a rolau technegwyr. Gydag arweiniad gan ddarlithwyr â phrofiad yn y diwydiant, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.
Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored i gael taith o gwmpas ein cyfleusterau, llenwch ffurflen gais a dechreuwch eich taith greadigol heddiw.
Pam astudio’r Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr?
Past Students

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Ryddhau eu EPs eu hunain
- Cychwyn eu cwmnïau cynhyrchu llwyddiannus eu hunain
- Ennill enwebiadau Bafta
Newyddion Perthnasol...
Mae Poppy Bishop yn fyfyrwraig technoleg cerdd yng Ngholeg Sir Gâr sydd wedi rhyddhau ei thrac cerddoriaeth cyntaf erioed.

Mae myfyrwyr cyfryngau creadigol Coleg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdy sain tridiau unigryw gan gymathydd sain sydd wedi gweithio ar raglenni fel Gavin and Stacey, Bloodlands a The Diplomat ar Netflix. at.
