Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr cyfryngau creadigol Coleg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdy sain tridiau unigryw gan gymathydd sain sydd wedi gweithio ar raglenni fel Gavin and Stacey, Bloodlands a The Diplomat ar Netflix. 

Roedd Simon Jones, cymathydd sain proffesiynol sy’n arbenigo mewn drama, yn pontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd a defnyddio yn y byd go iawn yn y diwydiant sain yn y gweithdy ymdrochol hwn.

Mae ei yrfa drawiadol yn cynnwys gwaith ar glasuron fel Hinterland, Gavin and Stacey yn ogystal â chyfresi teledu proffil uchel diweddar The Pact a Bloodlands ar gyfer BBC1, DI Ray ar gyfer ITV, a The Diplomat ar Netflix.

Roedd ei gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd yn amlwg wrth iddo dywys myfyrwyr cyfryngau creadigol lefel tri blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn trwy gymhlethdodau cynhyrchu sain dros dridiau, o’r cysyniad cychwynnol i’r cymysgiad terfynol.

Myfyriodd Sophia Bechraki, darlithydd cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion, ar effaith y gweithdy, meddai:  “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau a chysylltiadau byd go iawn i fyfyrwyr a all lywio eu gyrfaoedd ac ysbrydoli eu teithiau creadigol.

“Roedd gweithdy Simon Jones yn ddosbarth meistr mewn cynhyrchu sain, gan asio ei brofiad helaeth yn y diwydiant ag arweiniad ymarferol. 

“Roedd ei ymroddiad i rannu gwybodaeth yn ei wneud yn brofiad ysbrydoledig a thrawsnewidiol i’n myfyrwyr, gan agor eu llygaid i’r posibiliadau helaeth ym myd sain.”  

Dechreuodd y gweithdy gyda Simon yn rhannu ei daith bersonol yn y diwydiant sain, gan gynnig cipolwg i fyfyrwyr ar fywyd gweithiwr llawrydd a deinameg rhedeg stiwdio sain.  

Ymchwiliodd i gymhlethdodau technegol a chreadigol cynhyrchu sain ac archwiliodd arwyddocâd sain mewn drama, gan ddangos sut mae sain yn cyfoethogi naratif ac emosiwn. 

Trwy enghreifftiau o’i bortffolio ei hun, datgelodd Simon gymhlethdodau llif gwaith sain a phŵer trawsnewidiol technolegau ôl-gynhyrchu.  

Ychwanegodd Sophia Bechraki:  “Craidd y gweithdy oedd profiad ymarferol lle bu myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol mewn sesiynau ymarferol ar recordio Foley, gosod traciau, a chymysgu, gan gymhwyso eu dysgu mewn amser real.  

“Penllanw’r profiad cyfoethog hwn oedd sesiwn lle cyflwynodd y myfyrwyr eu gwaith eu hunain i Simon Jones a chael adborth personol a chyngor arbenigol. 

“Roedd y fentoriaeth uniongyrchol hon gan weithiwr proffesiynol profiadol yn gyfle prin i fyfyrwyr fireinio eu crefft a magu hyder yn eu galluoedd.”

Simon yn dangos myyrwyr pethay technogol ar scrin mawr fel nodiau swn
Simon a'i tim yn gweithio gyda myfyrwyr gyda scriniau a mics

Rhannwch yr eitem newyddion hon