Skip page header and navigation

Mae Poppy Bishop yn fyfyrwraig technoleg cerdd yng Ngholeg Sir Gâr sydd wedi rhyddhau ei thrac cerddoriaeth cyntaf erioed.

Mae’r record sengl, o’r enw Saviour, ar gael ar hyn o bryd ar wefan Bandcamp ac mae hefyd ar gael ar yr holl lwyfannau ffrydio.

Bydd ei EP ar gael yn hwyrach ym mis Mai.

Enw Poppy fel artist yw Serenity, sef ei henw canol sydd meddai yn crynhoi ei harddull gerddorol sy’n cwmpasu cymysgedd o roc-pop, cerddoriaeth werin ac acwstig.

Dechreuodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn ystod y cyfnod clo pan fu’n dysgu ei hun sut i ganu gitâr acwstig, yna dilynodd yr ysgrifennu caneuon a’r gwaith lleisiol wrth iddi ymarfer. Ar hyn o bryd mae Poppy’n cael gwersi drymio a chanu’r cornet ac mae wedi dysgu ei hun ar y gitâr fas.

Penderfynodd y ferch ifanc 17 oed astudio technoleg cerdd gan ei fod yn cynnig y sgiliau iddi y mae eu hangen i adeiladu gyrfa yn y diwydiant, a gyda’i diddordeb mewn cyfansoddi a chyfansoddi ar gyfer ffilm, hwn oedd y dewis iawn iddi hi.

Meddai Poppy Bishop: “Yn fy mlwyddyn gyntaf, dysgon ni ystod eang o sgiliau ond mae’r ail flwyddyn yn caniatáu i chi ganolbwyntio mwy ar yr hyn sydd o ddiddordeb i chi.

“Mae modiwlau megis trefnu a rheoli digwyddiad byw wir yn helpu a fy nod yw gwneud cysylltiadau yn y diwydiant. Rwyf wedi bod yn ceisio gwneud hyn drwy hyrwyddo fy record a ryddhawyd.

“Mae fy EP yn cynrychioli amserau trafferthus a cheisio deall pethau ond hefyd   gwireddiad a serenedd, fel lili’r dŵr, sy’n tyfu yn y baw ond yn blodeuo yn ystod taith ei bywyd.”

Gellir gweld Poppy yng nghanol tref Caerfyrddin lle mae’n perfformio ei cherddoriaeth i’r cyhoedd.

Daw ei hysbrydoliaeth fwy diweddar oddi wrth Noah Kahan a rhai megis Olivia Rodrigo a Zach Bryan. 

Hefyd mae’n dweud bod ei thiwtor Pasha Alpturer wedi bod yn rhan hanfodol o’i thaith a bod ganddo gysylltiadau da yn y diwydiant cerddoriaeth.

A hithau’n gorffen ei thaith goleg eleni, mae Poppy’n mynd i gymryd blwyddyn allan i archwilio gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth a gwneud cysylltiadau, ac mae wedyn wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Salford i astudio gradd mewn cerddoriaeth a recordio.

Mae Poppy yn astudio diploma estynedig lefel tri Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) mewn perfformio a thechnoleg cerdd.

Gwrando yma: https://pserenity.bandcamp.com/track/saviour

Clawr albwm Poppy, sef ei sefyll yn y tywyllwch o dan arwydd a ffenestr nion

Rhannwch yr eitem newyddion hon