Astudio Dechrau Newydd a Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Mae gan bawb lwybr gwahanol i mewn i addysg. Os ydych chi am ddod i’r coleg, ond dydych chi ddim yn siŵr os ydych chi’n hollol barod, yna gallai cwrs Dechrau Newydd neu Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fod yn iawn i chi.
Mae cyrsiau Dechrau Newydd a Sylfaen yn gyfle i baratoi eich hun ar gyfer addysg bellach fel eich bod yn gallu dechrau cwrs eich breuddwydion gyda’r hyder a’r hunangred eich bod yn gallu gwneud unrhyw beth. Trwy weithdai, mentora a chyfleoedd interniaeth, byddwch yn ennill annibyniaeth, gwytnwch a’r sgiliau astudio sydd eu hangen arnoch i ffynnu.
Byddwch mewn amgylchedd cefnogol gyda thiwtoriaid sy’n ymroddedig i helpu eich datblygiad personol yn ogystal â sicrhau eich llwyddiant academaidd. Ystyriwch hyn fel blwyddyn i chi gael adeiladu pont i’r dyfodol i chi’ch hun. Unwaith eich bod wedi cwblhau eich cwrs, byddwch yn barod ar gyfer pa gam bynnag rydych chi am gymryd nesaf.
Felly os yw hyn yn swnio’n iawn i chi, galwch heibio i’n gweld ni mewn diwrnod agored, cwblhewch ffurflen gais a dechreuwch ar eich taith i ddyfodol mwy disglair heddiw.
Pam astudio Dechrau Newydd a Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?
newyddion cysylltiedig
Yn ddiweddar, cwblhaodd myfyrwyr mynediad galwedigaethol Coleg Ceredigion eu gwobrau Dug Caeredin, gyda saith myfyriwr yn derbyn y wobr arian a chwech y wobr efydd.
Y tu hwnt i strociau brwsh: gwers mewn celf brotest yn rhoi hwb addysgol pryfoclyd educational nudge
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn creu posteri celf brotest mewn prosiect sydd wedi eu helpu i archwilio llawer mwy na chelf yn unig.