Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cwblhaodd myfyrwyr mynediad galwedigaethol Coleg Ceredigion eu gwobrau Dug Caeredin, gyda saith myfyriwr yn derbyn y wobr arian a chwech y wobr efydd.    

Gan weithio ar gyfer y wobr fawreddog hon yn ystod y flwyddyn academaidd, rhannodd y myfyrwyr eu hamser yn gwirfoddoli, yn gwella sgiliau ynghyd â chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol er mwyn ennill eu gwobr.    

Ar gyfer agwedd wirfoddoli’r wobr a oedd wedi’i seilio ar natur/cynaladwyedd,  gweithiodd y myfyrwyr yn ddiflino i greu blychau adar a gwestai gwenyn a roddwyd wedyn i ddau grŵp cymunedol, Prosiect Gweilch y Dyfi a Gerddi Cymunedol Borth.        

Ar gyfer yr agwedd sgiliau, bu’r myfyrwyr yn gweithio ar wella eu sgiliau coginio, gyda chefnogaeth a hebddi, yn ogystal â dysgu am wasanaeth bwyd.    

Ar ddiwedd y flwyddyn, gan arddangos yr holl sgiliau a ddysgon nhw, cafodd y staff de prynhawn a gafodd ei weini gan y myfyrwyr eu hunain.  

Chwedl leol Cantre’r Gwaelod oedd y brif ysbrydoliaeth y tu ôl i agwedd gorfforol y wobr.  

Gan weithio’n agos gyda’r adran celfyddydau perfformio, perfformiodd y myfyrwyr addasiad yn adrodd stori’r deyrnas ddiflanedig yng Ngorllewin Cymru.

Yn ôl Jack, un o’r myfyrwyr mynediad galwedigaethol:  “Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yng ngwobr Dug Caeredin yn fawr gan ei fod wedi fy helpu i fynd i’r afael â fy ochr greadigol yn ogystal â helpu gyda fy iechyd meddwl.    

“Fe wnes i fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau dan sylw ac roedd eu cyflawni gyda ffrindiau o’r cwrs yn eu gwneud yn well fyth.

“Mae ennill y wobr hon wedi cyflwyno cymaint o bosibiliadau i mi.”  

Dywed y darlithydd mynediad galwedigaethol Maggie Neville: “Cyflwyno nad yw’n gysylltiedig â chymwysterau yw’r cwricwlwm sgiliau byw’n annibynnol newydd mewn colegau addysg bellach ac mae’n seiliedig ar y pedair colofn ddysgu; sgiliau ar gyfer gwaith, sgiliau am oes, ymgysylltu â’r gymuned ac iechyd a lles.   

“Mae Gwobr Dug Caeredin yn galluogi’r dysgwyr i ddatblygu hyn, ac mae’n arbennig o dda am gyrraedd targedau unigol dysgwyr.   

“Rwyf i mor falch o’r ffordd y gweithiodd y myfyrwyr er mwyn cyflawni eu gwobrau ac rwy’n siŵr y bydd hyn wedi helpu gyda’u hiechyd meddwl a’u lles, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo.

“Rwy’n falch iawn o sut mae’n helpu’r dysgwyr ac yn gobeithio y bydd eraill yn gallu elwa o hyn y flwyddyn nesaf.”

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cefnogi rhaglen Dug Caeredin (DofE) oherwydd mae wedi bod yn gyfrwng i ddarparu profiad dysgu cyfoethog i bobl ifanc sy’n ategu, ac mewn rhai achosion yn ehangu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau maen nhw’n eu datblygu mewn amgylchedd dysgu traddodiadol.

Mae’n darparu cyfle cyffrous ar gyfer datblygiad personol sy’n caniatáu i ddysgwyr wthio eu terfynau eu hunain tra’n ymgysylltu mewn amgylchedd tîm. 

Mae symud o’r cylch cysur cyfarwydd i’r cylch her yn dasg hynod anodd i rai pobl ifanc ac mae’r rhaglen DofE yn caniatáu i dwf personol a disgyblaeth ffynnu. 

Mae rheoli amser, penderfyniad a’r ysfa i lwyddo yn rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer unrhyw yrfa mewn bywyd a dyma’r rhesymau sylfaenol pam fod y cynllun hwn mor llwyddiannus a phwysig i ddysgwyr.

Rhannwch yr eitem newyddion hon