Skip page header and navigation

Tywyswyd y myfyrwyr trwy gyfnod ymchwil helaeth yn edrych ar sut mae protestiadau modern a hanesyddol ar lefel ryngwladol wedi digwydd a’u heffaith ar gymdeithas.

Mae’r dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn astudio’r cwrs Llwybr 3 ar gampws Aberystwyth. 

Mae’r grŵp hwn o ddysgwyr yn wynebu rhai heriau dysgu ac yn dueddol o ddangos agwedd fwy tyner a goddefol tuag at eu siwrnai addysgol.  Felly, y nod oedd edrych ar yr holl enghreifftiau o’u blaenau ac yna gofyn y cwestiwn am beth gallen nhw brotestio a pham y mae’n bwysig cael llais yn y byd hwn.    

Roedd adborth o’r posteri a grëwyd yn amrywio o anabledd, y banciau mawr, caethwasiaeth fodern a hela llwynogod.  Fodd bynnag, y neges bwysig i’r darlithydd Louisa Allison-Bergin, yw bod gan fyfyrwyr lais y tu allan a’r tu mewn i’r coleg.  “Trwy waith celf a chyfathrebu, fe gawson ni sgyrsiau gwych,” meddai. “Roedd y prosesau meddwl y tu ôl i astudio hyn yn grymuso ac arweiniodd cwestiynau at fwy o gwestiynau ac agorwyd llwyfan ar gyfer trafod a dadlau. Yn ogystal, rwyf wedi gweld rhai newidiadau cadarnhaol yn fy myfyrwyr wrth iddyn nhw ddatblygu’r sgiliau i ddadlau, i drafod ac i ddeall safbwyntiau pobl eraill.”

Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys ymweliadau â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle mae gan y coleg gysylltiadau cryf iawn ac â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Edrychodd y grŵp ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, deiseb gwrth-ryfel a symudwyd yn ddiweddar o Amgueddfa Genedlaethol Hanes America yn Washington, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Edrychon nhw hefyd ar waith mwy cyfoes fel gwaith yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones y mae ei gosodwaith giatiau a rheiliau gwyrgam, crwca a throellog yn deillio o’i chanfyddiad o raniadau cynyddol mewn cymdeithas ers mudiad Brexit a’r ystyr newydd a ddaeth i’w gwaith yn sgil y pandemig.

Ychwanegodd Louisa Allison-Bergin: “Fe wnaeth y gwaith hwn estyn dychymyg myfyrwyr yn fawr a gofyn iddynt edrych i mewn i ba mor bell y gallent ymestyn eu protestiadau unigol.  Gan ddefnyddio modiwl y gyfraith a gwyddor fforensig a ddysgais iddynt y llynedd, roedden nhw hefyd yn gallu edrych ar y gwahaniaeth rhwng materion moesol a chyfreithiol a ble yn union mae protest yn gorwedd rhwng y ddau.”

A montage of posters


 

Cymysg o gwaith posteri myfyrwyr

Rhannwch yr eitem newyddion hon