Skip page header and navigation

Astudio Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr

Ydych chi’n frwdfrydig am chwaraeon a ffitrwydd? Byddwch yn barod i droi eich cariad at chwaraeon yn yrfa werth chweil drwy astudio Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr! 

Ar ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd, byddwch yn plymio i fyd cyffrous gwyddor chwaraeon, hyfforddi a rheolaeth.  Byddwch yn dysgu gan staff addysgu profiadol sydd wedi gweithio yn y diwydiant, yn ymarfer eich sgiliau mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, a hyd yn oed yn cael cyfleoedd i weithio gyda thimau chwaraeon lleol.

Bydd gennych fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau i helpu eich datblygiad, gan gynnwys cae 3G o’r radd flaenaf, cyfleuster codi pwysau a chyflyru sy’n arwain y sector, campfa a swît gwyddor chwaraeon a neuadd chwaraeon, sy’n cynnig gofod amlbwrpas ar gyfer llu o chwaraeon a gweithgareddau dan do. 

Ond nid yw’r cwrs yn ymwneud â gemau’n unig; mae’n ymwneud â dysgu sgiliau a fydd yn eich helpu i lwyddo mewn unrhyw yrfa.  Byddwch yn datblygu sgiliau arwain, gwaith tîm, a chyfathrebu sy’n werthfawr mewn unrhyw faes.  P’un a ydych chi’n breuddwydio am ddod yn hyfforddwr, hyfforddwr personol, therapydd chwaraeon, neu hyd yn oed rhedeg eich busnes chwaraeon eich hun, bydd ein cyrsiau yn eich helpu i gyrraedd eich cyrchnodau.

Os ydych yn barod i droi eich cariad at chwaraeon yn yrfa foddhaus, ymunwch â ni mewn diwrnod agored, cwblhewch eich ffurflen gais a symudwch tuag at lwyddo yn y dyfodol!

Pam astudio Chwaraeon gyda ni …

01
Cyfleusterau ardderchog ar y safle gan gynnwys cae 3G o'r radd flaenaf, cyfleuster codi pwysau a chyflyru sy'n arwain y sector.
02
Academïau Chwaraeon o fri sydd wedi meithrin llawer o fyfyrwyr i yrfaoedd proffesiynol llwyddiannus ym maes chwaraeon.
03
Cyfleoedd hyfforddi gydag ysgolion lleol.

Past Students

Glass trophies laid out on a table

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Chwarae i dimau cenedlaethol.
  2. Cychwyn eu clinig therapi chwaraeon eu hunain.
  3. Ennill teitlau Chwaraeon y Byd.
Two students in muddy rugby kit smiling at the camera and making positive hand gestures.

Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr

Os yw chwaraeon yn rhan fawr o’ch bywyd ac rydych yn gweithio tuag at lwyddiant yn eich maes, yna bydd ymuno â’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr yn eich helpu i gyflawni’r uchelgeisiau hynny, gan eich cadw hefyd ar y trywydd iawn i gael y canlyniadau academaidd gorau. 

Newyddion cysylltiedig...

Mae tua 30 o chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Sir Gâr wedi dychwelyd o beth mae rhai myfyrwyr yn disgrifio fel taith ‘unwaith mewn oes’ o Dde Affrica.

A sponsor rugby shirt

Mae Emma wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei gyrfa fel beicwraig trac. Pan oedd ond yn 16 oed, hi oedd pencampwraig iau Ewrop ac yn 18 oed roedd yn bencampwraig genedlaethol yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol uwch.

Emma Finucane with multiple olympic medals around her neck