Cyn-fyfyrwraig Emma Finucane yn dathlu medal aur yng Ngemau Olympaidd Paris 2024
Mae’r gyn-fyfyrwraig Emma Finucane wedi dathlu medal aur Olympaidd ym Mharis trwy ennill y sbrint tîm yn y felodrom a disgwylir i’w buddugoliaethau olympaidd gynyddu.
Mae Emma wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei gyrfa fel beicwraig trac. Pan oedd ond yn 16 oed, hi oedd pencampwraig iau Ewrop ac yn 18 oed roedd yn bencampwraig genedlaethol yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol uwch.
Astudiodd Emma gwrs gwyddor chwaraeon ac ymarfer yng Ngholeg Coleg Sir Gȃr a chafodd ei chefnogi gan y Rhaglen Perfformiwr Elit yn y coleg. Oherwydd ei hymrwymiadau chwaraeon, derbyniodd Emma raglen addysgol ‘llwybr carlam’, addysg a oedd yn gweithio o gwmpas ei hymarfer yng Nghanolfan Genedlaethol Beicio Prydain ym Manceinion gyda thîm Prydain Fawr (GB). Gwnaeth y math hwn o astudio olygu bod Emma’n cyflawni’r proffil gradd-uchaf o ragoriaeth seren driphlyg.
Dechreuodd Emma ymddiddori mewn beicio trac yn 2011 yn wyth oed, pan ymunodd â’i chlwb lleol, Towy Riders yn felodrom Caerfyrddin. O ddechrau allan gyda thaseli pinc yn hongian oddi ar ei handlenni llywio i ddod yn seren yn y gamp.
2022 oedd hi pan enillodd efydd yng Ngemau’r Gymanwlad cyn cael llwyddiant syfrdanol yn 2023 sef ennill aur ar gyfer y sbrint ym Mhencampwriaethau’r Byd. Yn gynharach eleni, enillodd Emma deitl sbrint menywod Ewrop - ynghyd ag arian yn y sbrint tîm a’r keirin - gan roi’r perfformiad gorau gan sbrintwraig o Brydain ym Mhencampwriaethau Ewrop. Seren i gadw mewn golwg.
Gwnaeth Emma, sydd nawr yn 21 oed, gystadlu yn y gemau olympaidd gyda’r cyrchnod o fod yr athletwraig gyntaf o Brydain i ennill tair medal aur mewn digwyddiad unigol, y fenyw Brydeinig gyntaf i wneud hynny. Enillodd ei thîm, yn cynnwys Katy Marchant a Sophie Capwell, aur yn y rasys sbrint tîm yn gynt na neb o’r blaen. Roedd ennill aur yn gwireddu breuddwyd ei phlentyndod.
Pan ddaeth yr amser i fynd ar y trac ar gyfer y keirin, gorffennodd Emma yn y trydydd safle gan ennill medal efydd, a rhoi terfyn ar ei breuddwydion o drithro aur olympaidd. Ymhell o fod yn siomedig, roedd yr athletwraig yn ecstatig, a dywedodd wrth Chwaraeon y BBC: “Roedd cael efydd, yn teimlo i mi fel cael aur mewn gwirionedd, oherwydd gadewais i bopeth allan fan’na ar y trac.”
Ar ddiwrnod olaf y gemau Olympaidd, gwnaeth Emma hanes ym Mhrydain trwy ennill medal efydd yn y sbrint unigol, sef ei thrydedd fedal yn y Gemau. Y tro diwethaf enillodd athletwraig o Brydain drithro o fedalau Olympaidd oedd yn 1964, gan wneud cyflawniad Emma yn wirioneddol hanesyddol.