Skip page header and navigation

Mae tua 30 o chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Sir Gâr wedi dychwelyd o beth mae rhai myfyrwyr yn disgrifio fel taith ‘unwaith mewn oes’ o Dde Affrica.

Cartref i bencampwyr cyfredol Cwpan Rygbi’r Byd, bu’r myfyrwyr a phum darlithydd yn teithio o gwmpas Tref y Penrhyn (Cape Town) a’r ardal o amgylch gan chwarae tair gêm rygbi gystadleuol, a gweld atyniadau diwylliannol ac addysgol yn ystod y daith unarddeg o ddiwrnodau.

Gwnaed y daith hon yn bosibl diolch i noddwyr lleol megis Adam Jones o gwmni Vaughan Construction Cyf. sef prif noddwr y daith, TAD Builders Cyf sy’n noddwyr partneriaeth y daith, y Bridge yn Llangennech a Cadog Homecare Cyf. sy’n brif noddwyr yr academi rygbi a noddwyr partneriaeth ar gyfer y daith.  

Mae Jac Pritchard, capten y tîm teithio ar gyfer y gêm yn erbyn South Africa College High School (SACs), hefyd yn chwarae i Academi’r Scarlets ac mae’n astudio hyfforddi a datblygu chwaraeon lefel tri, ac meddai: “Gwnaeth y daith atgofion oes. Roedd archwilio safleoedd a phrofiadau lawer De Affrica yn anhygoel, hyd yn oed yn well ochr yn ochr â chyd-chwaraewyr a ffrindiau.”

Fe wnaeth Rory Ghali, sy’n fyfyriwr gwyddor chwaraeon ac ymarfer lefel tri a ddathlodd ei benblwydd yn 17 oed ar y daith, gwrdd â’i deulu oedd wedi ymfudo i Dde Affrica. “Cyfle unwaith mewn oes ble y gwnaethon ni atgofion a fydd yn para am oes gyda chwmni gwych a phenblwydd 17eg fydda i fyth yn anghofio,” meddai. 

Roedd y daith 11-diwrnod yn cynnwys ymhlith ymweliadau eraill, ymweliad â Mynydd y Bwrdd (Table Mountain), dringo i fyny mynydd Lions Head, Cheetah Outreach, Prifysgol Stellenbosch, Ynys Robben, Gwarchodfa Gêm Acwila a chinio mewn bwyty byd-enwog traddodiadol De-Affricanaidd, sef Gold.

Chwaraeodd tîm y coleg yn erbyn rhai o’r timau mwyaf enwog yn Ne Affrica, gan gynnwys Clwb Rygbi Masiphumelele (Masi RFC) a Chlwb Rygbi False Bay sydd wedi datblygu nifer o chwaraewyr Springbok rhyngwladol.

Meddai Rob Kirk, rheolwr y daith a darlithydd gwyddor chwaraeon: “Hon yw ein taith fawr gyntaf mewn nifer o flynyddoedd ers dod allan o’r pandemig ond dyma ddechrau taith bell ddwyflynyddol.

“Roedd pawb mor groesawgar a chyfeillgar yn Ne Affrica ac roedd hi’n ddiddorol gweld sut mae gwahanol glybiau’n rheoli eu timau a’r cynwysoldeb, cyfeillgarwch a chefnogaeth sydd ganddynt o fewn eu proses.

“Yn ogystal roedd yn brofiad dihunol i weld rhai o’r timau â llai o adnoddau mor frwdfrydig ar y cae chwarae a pha mor hapus oedden nhw i dderbyn y rhoddion cit a gynigiwyd gan ein chwaraewyr. Rydyn ni wedi cysylltu unwaith eto â Frank (rheolwr/hyfforddwr tîm Masi RFC) ac rydyn ni’n bwriadu ehangu ein cefnogaeth datblygu chwaraewyr trwy anfon eitemau rygbi eiddo blaenorol yn cynnwys bŵts a chyfarpar allan i glwb y dreflan dde affricanaidd.

Meddai Euros Evans, pennaeth yr Academi Chwaraeon:  “Roedden ni wrth ein bodd yn darparu ychydig o gefnogaeth o’r ystlysau i’n pedwar cyn-chwaraewr o Goleg Sir Gâr, sef Josh Morse, Lucca Setao, Macs Page a Harry Thomas, a oedd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Dan 20 oed. Roedd yn adeg o falchder gwylio ein bechgyn yn wynebu’r Haka grymus a chwarae yn erbyn Crysau Duon nerthol Seland Newydd, achlysur gwirioneddol arbennig.” 

Ychwanegodd Jack Wooller, myfyriwr Safon Uwch sy’n chwarae i academi rygbi’r coleg: “Roedd yn anhygoel profi a deall gwir ddiwylliannau De Affrica.” 

Mae Twm Davies, capten y tîm teithio ar gyfer y gêm yn erbyn Clwb Rygbi False Bay, yn fyfyriwr hyfforddi a datblygu chwaraeon lefel tri, ac meddai: “Mae teithio wedi bod yn gyfle gwych i archwilio lleoedd newydd, blasu bwydydd newydd a chwrdd â phobl newydd. Rwyf wedi cael y cyfle i ddysgu am ddiwylliant a ffordd o fyw gwahanol sydd wedi fy helpu i ddeall a gwerthfawrogi’r byd o’m cwmpas.”

Meddai Harri Thomas, myfyriwr hyfforddi a datblygu chwaraeon lefel tri: “Cawson ni amser syfrdanol gyda phrofiadau ac atgofion a fydd yn para am oes. “Roedd y daith wedi’i threfnu’n dda ac roedd grŵp anhygoel o staff gyda ni a oedd yn wych yn gwneud y daith yn saff a hefyd gwneud yn siŵr bod pawb yn cael llawer o hwyl. Gwnaethon ni lawer o ffrindiau allan yn Ne Affrica byddwn ni’n eu cofio am byth.

Ychwanegodd Rob Kirk: “Mae’r daith hon wedi rhoi ychydig o brofiad o chwarae’n rhyngwladol i’n chwaraewyr, chwarae ar amrywiol diroedd o gaeau lludw sych mewn amodau poeth i gaeau gwyrddlas. Mae’r croeso wedi bod yn brofiad dihunol ac un y byddwn ni’n ei werthfawrogi am byth. De Affrica fe fyddwn ni nôl!” 

one side of a boat on calm water
The group eating in a restaurant
Chwarae rygbi ar maes mewn De Africa

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau