Skip page header and navigation

1 Awst 2022 – 31 Gorffennaf 2023

  • Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar 1af Ebrill 2018 ar gyfer colegau Addysg Bellach yng Nghymru. 

    Nod y Safonau yw:

    • Ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
    • Ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
    • Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd

    Mae gan y Coleg, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr (CSG) a Choleg Ceredigion (CC), gyfrifoldeb i sicrhau na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Hefyd mae yna ofyniad i hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg ym myd gwaith a bywyd bob dydd.

    Mae’n ofynnol i’r Coleg gynhyrchu adroddiad blynyddol erbyn Ionawr 31ain fel y nodir yn Safonau’r Gymraeg, mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod o 1af Awst 2022 i 31ain Gorffennaf 2023. 

    Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

    • sut mae’r Coleg wedi cydymffurfio â’r safonau yr oeddem dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn (fesul dosbarth y safon - cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu);
    • nifer y cwynion a dderbyniwyd (fesul dosbarth y safon - cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi; gweithredu)
    • nifer y gweithwyr cyflogedig sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (ar sail cofnodion o dan safon 158);
    • nifer yr aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddiant a gynigiwyd gennym yn Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion o dan safon 159);
    • canran o gyfanswm nifer y staff sy’n mynychu’r cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 159);
    • nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd yn unol â gofynion amrywiol mewn perthynas â sgiliau Cymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 162). 
  • Rôl Tîm y Gymraeg yn y Coleg yw:  

    • Hyrwyddo’r Gymraeg a dweud wrth ddysgwyr a’r holl staff am ei phwysigrwydd yng Nghymru ddwyieithog y dyfodol
    • Creu diwylliant ac ethos Cymreig ar draws y Coleg cyfan
    • Annog a chefnogi dysgwyr a staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg
    • Creu cyfleoedd i ddysgwyr a’r holl staff i ymarfer a defnyddio eu sgiliau Cymraeg
    • Monitro cydymffurfiad y Coleg â Safonau’r Gymraeg

    Er mwyn sicrhau mwy o ffocws ar fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg a datblygu’r coleg ymhellach fel sefydliad cwbl ddwyieithog mae tîm y staff sy’n goruchwylio’r gwaith hwn yn cynnwys:

    • Is-bennaeth Profiad Dysgwyr a Phartneriaethau (VP) - Vanessa Cashmore, arweinydd strategol ar gyfer y Gymraeg
    • Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (DB) - Helen Griffith, arweinydd ar gyfer y Gymraeg
    • Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell a Safonau’r Gymraeg (LS/WLS) - Jan Morgan, yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg
    • Dau Swyddog y Gymraeg (WLO)
    • Menna Jones - cyfrifoldeb dros gampysau’r Graig, Rhydaman a’r Gelli Aur
    • Heledd Dafis - cyfrifoldeb dros gampysau Pibwrlwyd, Ffynnon Job, Aberteifi ac Aberystwyth

    Mae gan yr Is-bennaeth, y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd a’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell/Safonau’r Gymraeg gyfrifoldeb dros saith campws y coleg.

  • Roedd pob Coleg Addysg Bellach yng Nghymru i fod i gydymffurfio â rhai o Safonau’r Gymraeg o Ebrill 2018 gyda chydymffurfiad llawn yn ofynnol erbyn Medi 2018.

    Crëwyd safle Google mewnol yn benodol ar gyfer hybu’r Gymraeg, porth ar gyfer adnoddau a gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant Cymraeg. Mae yna adran bwrpasol ar y safle ar gyfer Safonau’r Gymraeg y gall yr holl staff ei chyrchu. Mae hyn yn cynnwys yr hysbysiadau cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Colegau a chanllawiau hunangymorth a gwybodaeth i gefnogi staff i fodloni’r safonau o fewn rolau penodol eu swyddi.

  • Mae’r Coleg wedi datblygu Taflenni Cymorth sydd ar gael ar Safle Google y Gymraeg i hysbysu defnyddwyr ynghylch gofynion Safonau’r Gymraeg o ran Cyflenwi Gwasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys arweiniad ar:

    • Ateb y ffôn
    • Gohebiaeth
    • Arddangosiadau o ddeunyddiau cyhoeddus mewn digwyddiadau/arddangosfeydd
    • Dogfennau
    • Cyfleoedd dysgu
    • Darlithoedd cyhoeddus
    • Cyfarfodydd 
    • Seremonïau graddio a gwobrwyo
    • Hyrwyddo gwasanaethau
    • Gwirio sillafu a gramadeg yn y Gymraeg
    • Troedynnau ac atebion awtomatig mewn negeseuon e-bost
    • Gwasanaethau cyfieithu

    Arddangosir posteri rhestrau gwirio ym mhob ystafell waith staff yn egluro gofynion lleiaf Safonau’r Gymraeg o ran cyflenwi gwasanaethau y mae’n rhaid i staff gadw atynt.

    Mae staff sydd â sgiliau Cymraeg yn gwisgo laniardau sy’n nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu ddysgwyr. Hefyd mae hysbysiadau wrth bob un o’r desgiau derbynfa sy’n annog defnyddio’r Gymraeg.

    Mae staff yn ymwybodol o’r angen i ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn gyntaf, a sut i drosglwyddo’r alwad i siaradwr Cymraeg os nad ydynt yn gallu darparu gwasanaeth Cymraeg yn bersonol. 

    Mae yna eiriad ar gael ar safle Google y Gymraeg y gall staff ei gynnwys yn nhroedyn eu negeseuon e-bost sy’n nodi eu bod yn gallu cyfathrebu, ac yn croesawu cyfathrebu, yn y Gymraeg. Mae’r holl negeseuon e-bost a anfonir o’r Coleg yn cynnwys troedyn sydd â’r  wybodaeth angenrheidiol ynghylch croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn nodi na fydd ateb gohebiaeth yn Gymraeg yn achosi oedi.

    Mae gwefannau’r Coleg ar gael yn Gymraeg a Saesneg hefyd ac maent yn gwbl weithredol yn y naill iaith neu’r llall.

    Mae meddalwedd cyfrifiadurol ar gael ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg ar bob un o gyfrifiaduron y Coleg.

    Mae’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell/Safonau’r Gymraeg hefyd yn rheoli’r tîm cyfieithu sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu llawn Saesneg i Gymraeg neu Gymraeg i Saesneg ar gyfer yr holl aelodau staff. Gellir cael mynediad i’r gwasanaeth hwn drwy Borth y Coleg a’r Safle Google Cymraeg. 

    Er mwyn adnabod dysgwyr â sgiliau Cymraeg a chasglu tystiolaeth, ers Medi 2017 mae ffurflen gais y Coleg yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr nodi:

    1. eu hiaith gyntaf
    2. p’un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl neu ddim yn siaradwyr Cymraeg.
    3. p’un a fyddent yn hoffi derbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
    4. p’un a fyddent yn hoffi astudio’n ddwyieithog
    5. beth yw eu cymhwyster Cymraeg uchaf

    Caiff y wybodaeth hon ei llwytho i fyny i EBS a Gar I, cronfeydd data sy’n dal holl wybodaeth myfyrwyr ac a ddefnyddir i gynhyrchu gohebiaeth a chynllunio ar gyfer cymorth a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nodir dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ar y system gyda’r swigen  siarad Cymraeg oren wrth ochr eu henwau.

    Caiff pob dysgwr a fynychodd ysgolion cyfrwng Cymraeg neu sydd â chymhwyster TGAU Cymraeg iaith gyntaf eu nodi ar y system fonitro, olrhain a chyfathrebu fewnol. 

    Caiff pob dysgwr sydd wedi nodi bod ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg laniard yn awtomatig sy’n nodi bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg.  

    Mae pob ffurflen a dogfen generig sy’n gysylltiedig â’r Coleg yn cael eu darparu’n ddwyieithog ar gyfer yr holl ddysgwyr. 

    Mae dysgwyr yn mynychu sesiynau cynefino am y cymorth, gweithgareddau a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael iddynt yn ystod eu hamser yn y Coleg.  Caiff hawliau dysgwyr mewn perthynas â’r Gymraeg eu hyrwyddo yn ystod y sesiynau cynefino hyn a chynhelir sesiynau Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn ystod y tymor cyntaf ar draws pob campws.

    Caiff Llysgenhadon Myfyrwyr y Gymraeg eu recriwtio ar draws y coleg yn ystod mis Hydref bob blwyddyn academaidd. Byddant yn gweithio’n agos gyda Swyddogion y Gymraeg ac o fewn eu meysydd cwricwlwm i hyrwyddo manteision defnyddio a gwella sgiliau iaith Gymraeg.

    Mae’r coleg yn cyflogi dau Swyddog y Gymraeg sy’n gweithio ar draws y campysau ac sy’n cynnig dewis o gymorth Iaith Gymraeg ar gyfer staff addysgu a dysgwyr. Mae’r Swyddogion y Gymraeg hyn yn darparu cymorth i ddysgwyr er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg o fewn y cwricwlwm yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddysgwyr a staff ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Cynllunnir calendr o ddathliadau Cymraeg bob blwyddyn academaidd a chaiff staff a dysgwyr ill dau eu cefnogi a’u hannog gan Swyddogion y Gymraeg i gymryd rhan a chroesawu diwylliant, iaith a hanes Cymru. 

    Anogir staff i ddysgu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoddir cyfle iddynt i gymryd cyrsiau iaith Cymraeg Gwaith naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

  • Gwneir asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar bob polisi sy’n newydd, a adolygwyd neu a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau’r canlynol:  

    • rhoddir ystyriaeth i gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
    • nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
    • ystyrir pob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg
    • bod pob polisi yn ystyried ac yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
  • Gofynnir i bob gweithiwr cyflogedig a ydynt am dderbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Cesglir y wybodaeth gan yr adran Adnoddau Dynol a darperir gohebiaeth yn unol â hynny. 

    Mae pob polisi sy’n cael ei roi gan yr adran Adnoddau Dynol ynghylch recriwtio a chyflogaeth yn y Coleg ar gael yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg.

    Mae polisïau sy’n ymwneud â chwynion staff a gweithdrefnau disgyblu wedi bod yn destun Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg ac maent yn caniatáu i staff ddefnyddio’r Gymraeg trwy gydol y prosesau. 

    Mae safle Google y Gymraeg pwrpasol gan y Coleg ar gyfer y Gymraeg sy’n cynnwys:

    • Safonau’r Gymraeg
    • Adnoddau a dolenni i gyrsiau ar-lein i ddysgu Cymraeg
    • Terminoleg ac adnoddau pwnc-benodol

    Anogir yr holl staff i fynychu cyrsiau i wella eu sgiliau Cymraeg ac i ddatblygu sgiliau i’w galluogi i addysgu’n ddwyieithog.

    Gall staff wella eu sgiliau iaith drwy’r rhaglen Cymraeg Gwaith a gynigir wyneb yn wyneb neu drwy gyflwyniad ar-lein.  Hefyd hyrwyddir y cynllun newydd Cymraeg Gwaith + ac mae llawer wedi’i fynychu.

    Cynigia’r Coleg gyfle i staff addysgu gymryd rhan mewn datblygiad staff sy’n benodol ar gyfer gwella eu sgiliau addysgu dwyieithog.   Ceir y sesiynau Sgiliaith allanol yn ogystal â sesiynau mewnol y llwybr Dwyieithog.  Gall staff sy’n dewis ymgymryd â’r Llwybr Dwyieithog fwynhau gweithdai teilwredig a darlithoedd ar sut i gyflwyno’n ddwyieithog i grwpiau o ddysgwyr a sut i greu awyrgylch dosbarth sy’n annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg mewn modd cadarnhaol.

    Mae rhaglen addysgu ar draws y Coleg, sef “Sylfaenol, Gwell, Gorau”, wedi’i datblygu a’i chyflwyno i’r holl staff addysgu. Mae hon yn eu cefnogi i wella eu sgiliau addysgu dwyieithog yn raddol. Bellach mae’r sgiliau a ddysgwyd trwy’r rhaglen gyflwyno hon wedi’u cyflwyno i’r ystafelloedd dosbarth ac edrychir yn fanwl ar sut mae’r staff addysgu yn gweithredu’r meini prawf yn ystod eu harsylwadau addysgu ffurfiol.

    Fel rhan o broses gynefino’r Coleg mae’n ofynnol i staff newydd hunanasesu a chwblhau holiadur byr sy’n nodi lefel eu sgiliau Cymraeg ynghyd â chwblhau’r cwrs ar-lein gorfodol, Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg.   

    Cyrsiau sgiliau Cymraeg a gyflwynwyd yn ystod Blwyddyn Academaidd 2022-2023:
    • Cymraeg Gwaith, cwrs wyneb yn wyneb a gyflwynwyd yn fewnol
      • 16 aelod staff
    • Cwrs ar-lein Cymraeg Gwaith
      • 11 aelod staff
    • Cwrs Cymraeg Gwaith +
      • 7 aelod staff
    • Cymhwyster Tystysgrif Iaith
      • 4 aelod staff
    • Cwrs Preswyl Cymraeg (Nant Gwrtheyrn)                             
      • 4 aelod staff                                            
    • Modiwl MA mewn Dwyieithrwydd – cwrs allanol
      • 3 aelod staff
    • Rhaglen fentora un-i-un Sgiliaith
      • 7 aelod staff
    • Cwrs Dwys Deuddydd Sgiliaith ar gyfer Siaradwyr Cymraeg Rhugl
      • 8 aelod staff
    • Llwybr Dwyieithog - rhaglen Gymraeg fewnol
      • 6 aelod staff
  • Mae’r weithdrefn Gwyno ar gael ar y wefan ac mae’n adlewyrchu gofynion Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â Chwynion

    • Cwynion mewn perthynas â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

    Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion.

    • Cwynion mewn perthynas â Safonau Llunio Polisi

    Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion.

    • Cwynion mewn perthynas â Safonau Gweithredu

    Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion.

  • Gofynnir i staff gwblhau neu ddiweddaru hunanasesiad ar-lein cyfredol ar lefel eu sgiliau Cymraeg. Cyfanswm nifer y staff ar 31.07.2023 oedd 754, sy’n cynnwys staff addysgu, rheoli a chefnogi.  Ni wnaeth 42 o aelodau staff gwblhau’r asesiad.  Staff ffracsiynol oedd llawer o’r rhain neu ddarlithwyr gwadd a all fod wedi eu contractio am ddiwrnod yn unig.  Nid yw’r data am y rhain wedi’i gynnwys yn y wybodaeth isod.

      Uwch Canolradd Sylfaenol Mynediad Dim
    Siarad 20.08% 14.04% 24.44% 24.02% 17.42%
    Darllen 15.45% 16.57% 22.89% 22.61% 22.48%
    Ysgrifennu 11.94% 14.61% 20.08% 23.60% 29.77%
  • Mae’r adran adnoddau dynol wedi nodi na chynigiwyd hyfforddiant yn y meysydd canlynol yn ystod y cyfnod Awst 2022 i Orffennaf 2023.

    • recriwtio a chyfweld;
    • rheoli perfformiad;
    • cwynion a gweithdrefnau disgyblu;
    • delio â’r cyhoedd;
    • cynefino

    Cyflwynwyd y cyrsiau Iechyd a Diogelwch canlynol yn ystod y flwyddyn:

    Teitl y Cwrs Cyfanswm y nifer wnaeth gwblhau’r cwrs Nifer wnaeth gwblhau’r cwrs yn Gymraeg
    Cymorth Cyntaf yn y Gwaith 55 0
    Cwrs adnewyddu Cymorth Cyntaf yn y Gwaith 20 0
    Hyfforddiant Cadair Achub 23 0
    Cadair Achub - hyfforddi’r hyfforddwr 4 0
    Cadair Achub - hyfforddiant adnewyddu 1 0
    Hyfforddiant EpiPen 23 0
    Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Legionella 28 0
    MIDAS - hyfforddiant bws mini 59 0
    Hyfforddiant Cymorth Teithwyr 18 0
    Codi a Chario (gwrthrychau) 8 0
    Hyfforddiant Warden Tân 53 0
    Gweithio ar Uchder 17 0
    Diogelu (cwrs ar-lein) 82 3
    Diogelu Data (cwrs ar-lein) 162 0
    Diogelwch Gwybodaeth (cwrs ar-lein) 145 0
    Prevent (cwrs ar-lein) Mae’r ffigyrau ar gyfer y cwrs hwn o’r system datblygiad staff sydd ond yn casglu data o pan gyflwynwyd y cwrs - ni ellir cael mynediad i ddata cefndirol er mwyn casglu ffigyrau cywir ar gyfer y rhychwant dyddiad a nodir gan fod y cwrs hwn yn allanol 654 6
  • Nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd yn unol â gofynion amrywiol mewn perthynas â sgiliau Cymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 162).

         
    a) Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol 16
    b) Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg pan benodir i’r swydd 0
    c) Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol 19
    d) Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol 37