Cyrsiau Dronau Academi Sgiliau Gwyrdd

Darganfyddwch fyd cyffrous dronau gyda’n cyrsiau sydd wedi’u cynllunio’n fedrus yng Nghymru. P’un a ydych yn rhywun brwdfrydig sydd am droi eich hobi yn broffesiwn neu’n ddechreuwr sy’n awyddus i archwilio’r diweddaraf ym maes technoleg dronau, mae ein cyrsiau wedi’u teilwra i weddu i bob lefel o sgiliau. Dan arweiniad gweithwyr proffesiynol ardystiedig, byddwch yn ennill profiad ymarferol, uniongyrchol wrth hedfan dronau, gweithdrefnau diogelwch, a rheoliadau cyfreithiol. O feistroli rheoli’r offer hedfan i gipio darnau ffilm godidog o’r awyr, bydd ein hyfforddiant cynhwysfawr yn sicrhau eich bod yn barod i weithredu dronau mewn amgylcheddau hamdden ac amgylcheddau proffesiynol hefyd. Ewch ati i ddatgloi cyfleoedd gyrfaol newydd fel peilot dronau cymwysedig ac ymunwch â’r gymuned gynyddol o arbenigwyr dronau yng Nghymru.