Grymuso Lleisiau Ifanc: Yr Academi Sgiliau Gwyrdd yn ymgysylltu â myfyrwyr ynghylch barn am newid hinsawdd

Introduction
Mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda 4theRegion, i hwyluso Sgyrsiau Hinsawdd a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddarganfod barn myfyrwyr ar hinsawdd Cymru sy’n addasu.
Roedd y sgyrsiau pwysig hyn yn ceisio deall persbectifau pobl ifanc ynghylch newid hinsawdd ac annog eu cyfranogiad i lunio datrysiadau.
I ddechrau, cynhaliwyd yr astudiaethau hyn gyda myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan o wahanol feysydd sector yn cynnwys adeiladu, trin gwallt, celf ac amaethyddiaeth.
Gwnaeth adroddiad, yn dilyn y sgyrsiau, a ysgrifennwyd gan 4theRegion ar ran Yr Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ddatgelu sbectrwm o ddealltwriaeth, o’r rheiny ag amgyffrediad cyfyngedig o natur systemig newid hinsawdd ac ymagwedd ymlaciol tuag ato, i’r rheiny ag ymwybyddiaeth soffistigedig oedd yn rhagori ar ymwybyddiaeth llawer o oedolion.
Yn ogystal datgelodd duedd i ganolbwyntio ar weithredoedd unigol fel ailgylchu a lleihau’r defnydd o blastig, sy’n awgrymu bod angen addysg ehangach ar gymhlethdodau newid hinsawdd.
Pan ofynnwyd i fyfyrwyr ddatgelu geiriau oedd yn disgrifio eu teimladau ynghylch newid hinsawdd, y rhai mwyaf cyffredin oedd “pryderus”, “becso”, “trist” ac “ofnus”, i rai llai poblogaidd fel “di-hid” a “ddim yn gwybod”.
Pan ofynnwyd a fydd yr ardal leol yn dechrau teimlo effeithiau newid hinsawdd o ran stormydd difrifol a llifogydd, dywedodd 62% eu bod yn meddwl bod yr ardal leol yn teimlo’r effeithiau yn barod.
Fe wnaeth rai pobl ifanc, myfyrwyr celf yn arbennig, fynegi awydd i leihau dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi byd-eang ac ailadeiladu gwytnwch lleol, yn enwedig o ran systemau bwyd.
Mae hyn yn cyd-fynd â phryderon a godwyd gan ffermwyr ifanc am y pwysau economaidd maen nhw’n ei wynebu, gan danlinellu’r angen am bolisïau sy’n cefnogi’n weithredol cynhyrchu bwyd lleol. Fodd bynnag, un o’r mewnwelediadau mwyaf trawiadol o’r sgyrsiau hyn oedd yr ymdeimlad eang o ddadrymuso ymhlith myfyrwyr gyda llawer o bobl ifanc yn teimlo’n analluog i wneud gwahaniaeth.
Pan ofynnwyd i fyfyrwyr ddatgelu geiriau oedd yn disgrifio eu teimladau ynghylch newid hinsawdd, y rhai mwyaf cyffredin oedd “pryderus”, “becso”, “trist” ac “ofnus”.
Roedd hygyrchedd datrysiadau cyfredol hefyd yn achos pryder gyda myfyrwyr, yn ogystal â chorfforaethau mawr yn blaenoriaethu elw dros y blaned.
Daeth y canlyniadau hyn o hyd i lefelau amrywiol o ymgysylltiad ac ymateb, mae myfyrwyr amaethyddiaeth yn enwedig, yn pryderu am oblygiadau economaidd newid hinsawdd, gyda pholisïau cysylltiedig yn bryder sylweddol, ochr yn ochr â’r canfyddiad o fai amgylcheddol ar y sector.
Meddai Jemma Parsons, Pennaeth yr Academi Sgiliau Gwyrdd: “Mae angen i sgyrsiau am newid hinsawdd, gwytnwch ac addasu fod yn gyffredin ar draws ysgolion a cholegau, ac wedi’u hymgorffori ym mhob maes cwricwlwm. Mae Coleg Sir Gâr yn mynd i’r afael â hyn ar hyn o bryd trwy beilota cyflwyno’r cymhwyster CBAC Cynaladwyedd Ar Waith i grŵp o’n myfyrwyr Celfyddydau Perfformio a Chyfryngau ochr yn ochr â’u hastudiaethau addysg bellach.
“Bydd yr Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i rannu’r canlyniadau hyn er mwyn helpu llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol tra’n parhau i sgwrsio gyda dysgwyr a’u cefnogi i ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu ‘gwyrdd’ yn y dyfodol.”
Mae’r Academi, sydd wedi’i lleoli ar gampws Coleg Sir Gâr yn y Gelli Aur, yn cyflwyno sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau ym meysydd technolegau datblygol ac egwyddorion ar gyfer unigolion a chyflogwyr hefyd, llawer ohonynt wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer unigolion cymwys.
Gyda phwyslais cryf ar gydweithio gydag arbenigwyr diwydiant mae, cyrsiau a gynigir yn cynnwys Rheolaeth Cynaladwyedd Amgylcheddol IEMA, Asesu Ynni Domestig, Cydlynu Ôl-ffitio a Thechnolegau Adnewyddadwy a gydnabyddir gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS).
Nod yr Academi Sgiliau Gwyrdd yw datgyfrinio cynaladwyedd a hyrwyddo arferion byw a gwaith gwyrddach a rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i unigolion a sefydliadau sydd eu hangen i gefnogi Cymru i gyflawni Sero Net erbyn 2030.
Un o’r mewnwelediadau mwyaf trawiadol o’r sgyrsiau hyn oedd yr ymdeimlad eang o ddadrymuso ymhlith myfyrwyr gyda llawer o bobl ifanc yn teimlo’n analluog i wneud gwahaniaeth.
Academi Sgiliau Gwyrdd
Established in 2021, The Green Skills Academy is on a mission to demystify sustainability and promote greener living and work practices. Our vision is clear: to equip individuals and organisations with the knowledge and skills necessary to support Wales in achieving Net Zero by 2030.

GSA Enquiry Form
