Academi Sgiliau Gwyrdd Amgylcheddol

Mae ein cyrsiau amgylcheddol yn darparu’r wybodaeth hanfodol i helpu sefydliadau gyflawni targedau Sero Net. Mae’r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar strategaethau ymarferol ar gyfer cynaladwyedd a chânt eu hariannu’n llawn gan brosiect Academi Gwyrdd, gan eu gwneud yn hygyrch i fusnesau ac unigolion yng Nghymru. P’un a ydych yn bwriadu lleihau ôl troed carbon eich sefydliad neu yrru mentrau amgylcheddol, mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi eich cyrchnodau.
Pam astudio'r Amgylchedd gyda'r Academi Sgiliau Gwyrdd?
Dysgu sut i gyfrannu’n effeithiol at strategaeth Sero Net eich sefydliad.
Ariennir yr holl gyrsiau trwy cyllid PLA, gan gynnig mynediad heb unrhyw dâl i hyfforddiant cynaladwyedd.
Wedi’u cynllunio i fodloni anghenion cynaladwyedd cynyddol busnesau ac unigolion ar draws Cymru.