
Strategaeth Yr Academi Sgiliau Gwyrdd 2024
Pwrpas
Pwrpas
- Hyrwydd Cynaladwedd
- Datblygu Sgiliau
- Sicrhau Sero Net
Ein Gweledigaeth
“Bod yn rym blaenllaw wrth ddatblygu addysg werdd. Byddwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyfodol gwyrdd, sero net, lle mae addysg, arloesi a chydweithio’n cydgyfarfod i greu dyfodol gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”
Blaenoriaethau Strategol
- Addysg Werdd;
- Datblygu gweithlu ar gyfer dyfodol cynaliadwy;
- Ymchwil ac Arloesi;
- Ffocws ar Les a Chenedlaethau’r Dyfodol



1 - Addysg Werdd
- Ysbrydoli ac ysgogi ein staff i ymrwymo i strategaethau sero net lleol a bydeang
- Gweithredu cwricwlwm sy’n integreiddio cynaladwyedd, ynni adnewyddadwy, a stiwardiaeth amgylcheddol ar draws amrywiol ddisgyblaethau
- Cydweithio gyda budd-ddeiliaid i greu cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd mewn diwydiannau gwyrdd
2 - Datblygu Gweithlu Ar Gyfer Dyfodol Cynaliadwy
- Gweithio gyda’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) a LlC i nodi bylchau sgiliau a theilwra rhaglenni hyfforddiant yn unol â hynny
- Sefydlu rhaglenni hyfforddiant sy’n berthnasol i’r diwydiant er mwyn rhoi i’r gweithlu presennol y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr economi werdd ddatblygol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygiadau rhanbarthol strategol
- Sefydlu partneriaethau allweddol gyda gweithgynhyrchwyr ac arbenigwyr diwydiant i gyflenwi gweithlu medrus sy’n barod ar gyfer y dyfodol
- Hyrwyddo’r Academi Sgiliau Gwyrdd yn weithredol
3 - Hwb Arloesi Ar Gyfer Datrysiadau Cynaliadwy
- Sefydlu canolfan arloesi yn yr Academi Werdd sy’n ymroddedig i’r ymdrechion o ran ymchwil, datblygu a chydweithredu mewn technolegau ac arferion cynaliadwy
- Annog partneriaethau gyda busnesau a sefydliadau lleol i hybu a chyflymu egin fusnesau gwyrdd, gan wella eu twf a’u trawsnewidiad i economi fwy cynaliadwy
4 - Ffocws Ar Les A Chenedlaethau’r Dyfodol
- Ymledu egwyddorion lles a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol i wead diwylliant, polisïau ac arferion yr Academi Werdd
- Rhoi mentrau ar waith sy’n hybu cynhwysiant cymdeithasol, amrywiaeth, ac iechyd meddwl yng nghyd-destun cynaladwyedd
- Hwyluso gweithdai, seminarau, a digwyddiadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth am fentrau gwyrdd, newid hinsawdd, ac arferion byw yn gynaliadwy
- Cydweithio â chymunedau lleol i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd penodol sy’n ymwneud â chynaladwyedd gan sicrhau ‘trosglwyddiad cyfiawn’ i Sero Net
““Nid gair ffasiynol mo cynaladwyedd mwyach, ond anghenraid. Mae ein planed yn wynebu heriau amgylcheddol heb eu tebyg, o newid hinsawdd i draul sylweddol ar adnoddau a mater i ni yw gweithredu. Bydd yr Academi Sgiliau Gwyrdd yn arwain y ffordd wrth ysbrydoli ein cydweithwyr, ein dysgwyr a’n cymuned, gan roi iddynt y wybodaeth, y sgiliau a’r diwylliant i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Trwy addysg arloesol, profiadau ymarferol a chydweithio â Diwydiant, byddwn nid yn unig yn paratoi ar gyfer marchnad swyddi’r dyfodol ond byddwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at fyd mwy cynaliadwy a theg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Jemma Parsons - Pennaeth yr Academy Sgiliau Gwyrdd Rheolwr Prosiect PLA